- Abertawe 01792 773 773
- Caerdydd 029 2022 5472
- Caerfyrddin 01267 234 022
- Abergwaun 1348 873 671
- Hwlffordd 01437 764 723
- Practis Gwledig 01267 266 944
- Tyddewi 01348 873 671
- Nodwch fod pob galwad ffôn yn cael ei recordio
Tai Gweithwyr Amaethyddol yng Nghymru
Mae Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 wedi dileu statws arbennig i weithwyr amaethyddol yng Nghymru a nawr bydd eu tenantiaethau yr un fath ag unrhyw feddiannydd arall.
O dan y ddeddfwriaeth newydd, bydd contractau meddiannaeth yn disodli tenantiaethau a thrwyddedau presennol. Mae hyn yn berthnasol ar gyfer Tenantiaethau Byrddaliadol Sicr a Meddianaethau Amaethyddol Sicr. Nid yw hyn yn berthnasol i weithwyr amaethyddol a ddechreuodd feddiannu cyn 15 Ionawr 1989.
Sut ydw i'n trosi fy nghytundeb tenantiaeth bresennol yn gontract meddiannaeth?
Er mwyn gwneud hyn, bydd yn ofynnol i chi gyflwyno 'datganiad ysgrifenedig' o'r contract meddiannaeth i'r holl ddeiliaid contract (tenantiaid a thrwyddedeion gynt). Rhaid i'r datganiad ysgrifenedig hwn gynnwys holl delerau'r contract. Bydd hwn yn disodli eich cytundeb tenantiaeth neu gytundeb trwydded bresennol.
Contractau Rhent Presennol ar ôl 1 Rhagfyr 2022
Bydd gan landlordiaid sydd â chytundebau tenantiaeth gyfnod o chwe mis i gyflwyno datganiad ysgrifenedig o'r contract meddiannaeth sydd wedi'i drosi i’w deiliaid contract. Newidiodd pob cytundeb tenantiaeth bresennol i gontract meddiannaeth ar ddyddiad gweithredu'r ddeddfwriaeth newydd.
Atgyweiriadau a chyflwr gorfodol yr eiddo rhent
Mae'r ddeddfwriaeth yn nodi'r rhwymedigaethau a osodir ar y landlord o ran cyflwr annedd. Mae'r rhwymedigaethau hyn yn berthnasol i bob contract meddiannaeth a wneir am gyfnod o lai na saith mlynedd. Mae'n ofynnol i'r landlord o dan gontract meddiannaeth sicrhau bod eiddo mewn cyflwr da ac yn addas i bobl fyw ynddo.
Sut ydw i'n terfynu contract meddiannaeth ar gyfer gweithiwr amaethyddol?
Mae hyn yn dibynnu a oedd y denantiaeth flaenorol yn denantiaeth sicr, yn denantiaeth fyrddaliadol sicr neu yn feddiannaeth amaethyddol sicr. Mae gwahanol ddeddfwriaeth a chyfnodau rhybudd yn berthnasol yn dibynnu ar y math o denantiaeth.
Mae'r ddeddfwriaeth newydd yn newid sylweddol o'r ddeddfwriaeth flaenorol sy'n cynnig llai o sicrwydd deiliadaeth. Dylai cyflogwyr gymryd sylw o'r ddeddfwriaeth newydd os ydynt yn cynnig llety i weithwyr amaethyddol i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â rhwymedigaethau statudol newydd.
Eithriadau rhag trosi o dan y ddeddfwriaeth newydd
- Tenantiaeth o ddaliad amaethyddol o fewn ystyr Deddf Daliadau Amaethyddol 1986
- Tenantiaeth busnes fferm o fewn ystyr Deddf Tenantiaethau Amaethyddol 1995
- Tenantiaeth cyfnod penodol dros 21 mlynedd
- Tenantiaeth y mae Rhan 2 o Ddeddf Landlord a Thenant 1954 (tenantiaethau busnes) yn gymwys iddi
- Meddiannaeth warchodedig neu denantiaeth statudol o fewn ystyr y Rhent
- Tenantiaeth warchodedig neu denantiaeth statudol o fewn ystyr Deddf Rhenti 1977
Rwy’n ansicr sut i fwrw ymlaen - ble gallaf ddod o hyd i gymorth?
Mae rhagor o ganllawiau ar wefan llyw.uk.
Mae ein tîm o arbenigwyr ymgyfreitha gwledig wrth law i helpu. Am unrhyw ymholiadau, cysylltwch â'n Tîm Gwledig ar 03333 208644 neu e-bostiwch law@jcpsolicitors.co.uk
Sylwch nad bwriad yr erthygl hon yw bod yn gyngor cyfreithiol ac mae at ddibenion gwybodaeth yn unig. Dylech geisio cyngor gan gyfreithiwr cyn gweithredu.
-
- Matthew Owen
- Cyfarwyddwr a Phennaeth Esgeuluster Meddygol
-
- Arwel Davies
- Cyfarwyddwr- Cynlluniau Oes
-
- Meinir Davies
- Ymgynghorydd - Cydlynydd y Gymraeg
-
- Betsan Powell
- Cyfarwyddwr a Phennaeth Gwasanaethau Masnachol
-
- Elinor Laidlaw
- Cyfarwyddwr - Esgeuluster Meddygol
-
- Ian Rees
- Cyfarwyddwr a Phennaeth Anaf Personol
-
- Georgia Davies
- Ariannydd Cyfreithiol
-
- Naomi Headley
- Cynorthwyydd Cymorth Busnes
-
- Rhian Jervis
- Cyfarwyddwr-Eiddo Preswyl
-
- Sharon Jones
- Ysgrifenyddes Gyfreithiol - Cyfraith Teulu
-
- Angela Killa
- Cyfarwyddwr - Cyfraith Teulu
-
- Delyth Morris
- Cydlynydd Swyddfa
-
- Eleri Roebuck
- Uwch Gyfreithiwr Cyswllt - Eiddo Masnachol