- Abertawe 01792 773 773
- Caerdydd 029 2022 5472
- Caerfyrddin 01267 234 022
- Abergwaun 1348 873 671
- Hwlffordd 01437 764 723
- Practis Gwledig 01267 266 944
- Tyddewi 01348 873 671
- Nodwch fod pob galwad ffôn yn cael ei recordio
Betsan Powell
Mae Betsan yn arbenigwraig mewn cyfraith cwmnïau a chyfraith fasnachol, a chanddi brofiad eang o drafodiadau corfforaethol. Mae hi’n delio gydag ystod eang o faterion gan gynnwys gwerthu a phrynu busnesau a chwmnïau, cyd-fentrau, soddgyfranddaliadau, cytundebau cyfranddalwyr a phartneriaeth, bancio corfforaethol a chontractau masnachol.
Ymunodd Betsan â JCP fel Cyfarwyddwr o gwmni Redkite yng Ngorllewin Cymru ym mis Hydref 2013. Cyn hynny roedd Betsan yn Bartner gydag Acuity Legal yng Nghaerdydd.
Disgrifir Betsan fel “dibynadwy, cywrain ac effeithlon” (Legal 500 2009) ac yn “dda mewn trafodaethau masnachol” (Legal 500 2010) ac mae’n parhau i gael ei chymeradwyo yn adran Cyfraith Gorfforaethol a Masnachol argraffiad 2016 o’r Legal 500.
Mae’n rhugl yn y Gymraeg ac yn cynghori sawl un o’i chleientiaid trwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae Betsan yn chwarae rhan fawr mewn dau rwydwaith busnes yn Sir Benfro, sef Sbarc a Chlwb Cinio Busnes “Four Seasons” Sir Benfro.
Yn ei hamser hamdden, mae Betsan yn mwynhau cerdded ei chi, Siôn, ym mynyddoedd y Preseli.