Unrhyw Bryderon

Rydym yn credu bod gwrando ar eich pryderon yn y lle cyntaf yn fwy o werth i chi nag ymdrin â chŵyn na ddylai fod yn rhaid i chi ei gwneud. Dylai gofal da o’n cleientiaid ddod yn naturiol i’n haelodau staff ac rydym yn rhoi ein cleientiaid wrth wraidd popeth a wnawn.

Mae’r gwerthoedd canlynol yn bwysig iawn i ni:

  • Gwasanaeth gwych i gleientiaid
  • Uniondeb a phroffesiynoldeb
  • Ein cleientiaid a’n pobl
  • Perthnasoedd cyfeillgar a chryf
  • Cyfathrebu agored

Mae ein hymagwedd at y gwerthoedd hyn i’w gweld yn ein hymrwymiad i ddarparu cyngor a gwasanaeth cyfreithiol effeithlon ac o ansawdd uchel, ac iddo elfen gref o sylw personol, a’n nod yw darparu hyn i chi am bris teg.

Rydym yn buddsoddi llawer o amser ac egni mewn Gofal am Gleientiaid, ac rydym yn falch o’n hanes rhagorol a’n henw da.

Er gwaethaf pob rhagofal, mae camddealltwriaeth neu broblemau yn codi o bryd i’w gilydd. Ein nod yw ymdrin yn brydlon, yn deg ac yn effeithiol gydag unrhyw bryderon neu broblemau sydd gennych, ynglŷn ag unrhyw agwedd ar ein gwasanaeth, a byddem wir yn gwerthfawrogi’r cyfle i unioni pethau i chi.

Os ydych yn gleient ac yn teimlo ein bod wedi methu a chyrraedd ein safonau ein hunain neu eich disgwyliadau ohonom, gofynnwn i chi gysylltu â’r goruchwyliwr sy’n gyfrifol am y mater a fydd yn hapus i’w drafod gyda chi ac fe wnawn bopeth i geisio ddatrus unrhyw broblemau yn gyflym ac yn effeithlon.  Os ydych o hyd yn anhapus, yna mae gennych hawl i ddechrau’n proses gwyno gan ddefyddio’r manylion isod:-

Gellir cyflwyno cwynion ar lafar neu yn ysgrifenedig, a dylid eu cyfeirio at Natalie Corbi ar 01792 529621 neu drwy ebostio clientcare@jcpsolicitors.co.uk.

Nodwch fanylion eich cwyn yn glir, gan sicrhau eich bod yn darparu eich manylion cyswllt: enw, cyfeiriad a manylion y mater yr ydym yn ymdrin ag ef.

Ar ôl i ni gael y manylion, byddwn yn anfon cadarnhad ysgrifenedig o enw’r Triniwr Cwynion Haen Gyntaf sy’n ymchwilio i’ch pryder, ynghyd â chopi o’n Polisi Cwynion a fydd yn rhoi gwybod i chi am amserlen y broses. Cynhelir ymchwiliad prydlon a thrylwyr i bob cwyn. Bydd canfyddiadau’r ymchwiliad a’r ymateb yn cael ei anfon atoch o fewn 21 diwrnod i ddyddiad derbyn eich cwyn. Bydd yr ymateb yn cynnwys:

  • Y camau a gymerwyd i ymchwilio i’r mater
  • Canfyddiadau’r ymchwiliad
  • Y camau a fydd yn cael eu cymryd i ddatrys y mater

Er bod hynny’n annhebygol, os na fyddwch yn fodlon ar yr ymateb a gewch gennym, a’ch bod wedi cyrraedd terfyn ein proses gwyno ein hunain, cewch gysylltu â’r Ombwdsmon Cyfreithiol gan ddefnyddio’r manylion cyswllt canlynol:

Cyfeiriad: PO Box 15870, Birmingham, B30 9EB

Rhif ffôn: 0300 555 0333

Gwefan: www.legalombudsman.org.uk.

E-bost: enquiries@legalombudsman.org.uk

Fel rheol, mae’n rhaid cyflwyno cwynion i’r Ombwdsmon Cyfreithiol o fewn chwe mis i ddyddiad ein hymateb terfynol i’ch cwyn ac o fewn blwyddyn i ddyddiad y weithred neu’r anwaith y cwynir amdano, neu o fewn blwyddyn i’r dyddiad y dylech chi fod wedi sylweddoli bod achos cwyno. I gael mwy o wybodaeth, dylech gysylltu â’r Ombwdsmon Cyfreithiol.

Fel cwmni cyfreithiol a reoleiddir gan yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr, mae'n rhaid i ni gydymffurfio ag egwyddorion i sicrhau ein bod yn ymddwyn yn annibynnol, yn deg a gydag uniondeb.

Gall yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr (SRA) helpu os ydych yn pryderu am unrhyw un o'r uchod. Gallai hyn fod ynghylch anonestrwydd, cymryd neu golli eich arian neu driniaeth annheg oherwydd eich oedran, anabledd neu nodwedd arall. Rhaid i ni hefyd gynnal y gwaith o weinyddu cyfiawnder yn briodol. Os oes gennych unrhyw bryderon gallwch glicio yma i ymweld â gwefan yr SRA.