Matthew Owen
      • Matthew Owen
      • Cyfarwyddwr a Phennaeth Esgeuluster Meddygol
    • Contact

      • 01792 529 683
      • View vcard
    • Departments

    • Address

      • Llys Menter
      • Parc Ger y Llyn
      • Ffordd y Cwm Parc Anturiaeth
      • Abertawe
      • SA6 8QP
      • 01792 773 773
      • 01792 774 775

Matthew Owen

Cyfarwyddwr a Phennaeth Esgeuluster Meddygol

Mae Matthew wedi arbenigo’n gyfan gwbl mewn cynorthwyo dioddefwyr esgeuluster meddygol am bron i 20 mlynedd. Yn aelod o Banel Arbenigol Esgeuluster Meddygol Cymdeithas y Gyfraith, mae Matthew wedi datblygu arbenigedd penodol mewn achosion cymhleth a difrifol sy’n ymwneud ag anaf i’r ymennydd, ac wedi sicrhau nifer o setliadau gwerth miliynau lawer o bunnoedd, gydag un setliad diweddar yn werth mwy nag £19 miliwn.

Cymeradwyir Matthew yn Chambers 2019 am ei agwedd empathetig at achosion esgeuluster meddygol anodd, gyda ffynonellau yn dweud: “Mae wir yn ymgysylltu gyda’r cleientiaid a’u hanghenion ac yn gydwybodol a thrylwyr”, gan ychwanegu “fe aiff y tu hwnt i’r galw am yr hyn sydd angen ei wneud.” Ychwanega Chambers bod Matthew yn cynghori’n aml ar faterion o oedi cyn cael diagnosis, anaf geni a thriniaeth esgeulus, ac yn dangos hyfedredd ychwanegol mewn hawliadau o enedigaeth ar gam.

Yn ogystal â derbyn achosion a gyfeiriwyd ato gan Gyfreithwyr eraill nad oes ganddynt yr arbenigedd gofynnol yn y maes hwn, mae Matthew hefyd yn derbyn achosion wedi eu hatgyfeirio o fudiadau ac Elusennau amrywiol, sy’n dibynnu ar ei wybodaeth a’i enw da yn y maes hwn o’r gyfraith.

Gall cymryd achos esgeuluster meddygol fod yn broses cymhleth a hir, a thra bod llawer Cyfreithiwr yn gallu cynnig gwasanaeth eithriadol mewn meysydd eraill, does ganddynt mo’r arbenigedd gofynnol, y wybodaeth, na’r adnoddau sydd gan Matthew ac aelodau eraill o’r Tîm.

Mae Matthew yn cymryd amser ychwanegol i esbonio’r broses o achos Esgeuluster Meddygol i’w gleientiaid, ac mae’n falch iawn o’r berthynas ofalgar, ddibynadwy ac ymroddedig mae’n meithrin gyda’i gleientiaid dros y blynyddoedd y mae’n gweithio gyda hwy. Mae’n cydnabod fod unrhyw honiad o anaf difrifol yn adeg ysgytiol, ac fe wnaiff popeth o fewn ei allu i sicrhau bod buddiannau ei gleientiaid yn cael eu diogelu. Gweithia Matthew gyda gofalwyr proffesiynol a therapyddion yn rheolaidd er mwyn sicrhau’r adsefydlu gorau posib i’w gleientiaid a sicrhau y bydd eu hanghenion gydol oes yn cael eu diwallu.

Mae Matthew yn rhugl yn y Gymraeg.