- Abertawe 01792 773 773
- Caerdydd 029 2022 5472
- Caerfyrddin 01267 234 022
- Abergwaun 1348 873 671
- Hwlffordd 01437 764 723
- Practis Gwledig 01267 266 944
- Tyddewi 01348 873 671
- Nodwch fod pob galwad ffôn yn cael ei recordio
Elinor Laidlaw
Mae Elinor yn broffesiynol ac yn hawdd mynd ati, ac mae hi'n deall bod cleientiaid yn aml wedi bod drwy amgylchiadau aruthrol o anodd cyn penderfynu bwrw ymlaen ag achos o esgeuluster meddygol. Mae Elinor yn gweithio'n agos gyda chleientiaid unigol a'u teuluoedd, ac yn sicrhau bod y broses gyfreithiol yn cael ei hegluro mewn modd hawdd ei ddeall gyda'r nod o sicrhau'r canlyniad gorau posibl i bob cleient.
Mae llwyth achosion Elinor yn cwmpasu ystod eang o faterion meddygol cymhleth, gan gynnwys gweithredu ar ran cleientiaid mewn achosion sy'n ymwneud ag oedi wrth roi diagnosis a thriniaeth ar gyfer achosion o ganser, achosion orthopedig a thorri braich neu goes i ffwrdd, achosion gynaecolegol, ac achosion lle mae cleientiaid, yn anffodus, wedi marw o ganlyniad i esgeuluster, gan gynnwys cynrychioli teuluoedd sydd mewn profedigaeth yn ystod ymchwiliadau a gwrandawiadau cwêst.
Mae Elinor hefyd yn gweithio ochr yn ochr â Keith Thomas, Pennaeth y Tîm Gwasanaethau Anafiadau, a Matthew Owen, Pennaeth y Tîm Esgeuluster Meddygol, drwy roi cymorth a chefnogaeth i gleientiaid a'u teuluoedd mewn achosion lle mae cleient wedi cael anaf i'r ymennydd o ganlyniad i esgeuluster meddygol.
Mae Elinor yn aelod o APIL (Cymdeithas Cyfreithwyr Anafiadau Personol) ac yn Gynrychiolydd Is-adran Cyfreithwyr Iau Gorllewin Cymru ar y Pwyllgor Cenedlaethol, ac yn cynrychioli cyfreithwyr iau yn ardal de-orllewin Cymru, gan leisio unrhyw faterion neu bryderon a allai fod ganddynt yn ystod cyfarfodydd dwywaith y flwyddyn y Pwyllgor Cenedlaethol yng Nghymdeithas y Cyfreithwyr yn Llundain.
Graddiodd Elinor o Brifysgol Aberystwyth gyda gradd Anrhydedd Dosbarth Cyntaf yn y Gyfraith yn 2015, ac aeth ymlaen i ennill ei gradd Meistr yn y Gyfraith yn ogystal â chwblhau ei Chwrs Ymarfer Cyfreithiol ym Mhrifysgol Abertawe yn 2016, gan ennill Rhagoriaeth yn y ddau gymhwyster. Dechreuodd Elinor ei chontract hyfforddi gyda JCP ym mis Medi 2016, a chymhwyso yn Gyfreithiwr ym mis Medi 2018.
Ar wahân i'r gwaith, mae Elinor yn mwynhau teithio ac mae wrth ei bodd yn treulio amser gyda’i theulu a chymdeithasu â ffrindiau. Mae Elinor hefyd yn mwynhau pobi ac mae hi'n gogyddes frwdfrydig.
Mae Elinor yn rhugl yn y Gymraeg ac mae'n hapus iawn i roi cyngor cyfreithiol drwy gyfrwng y Gymraeg.