Gwasanaethau Anafiadau i Ffermwyr

Mae gweithio yn yr awyr agored, gydag anifeiliaid, peiriannau a chemegau, yn golygu bod ffermwyr yn wynebu risg sylweddol o gael damwain neu o gael eu hanafu.

Does dim dal sut y bydd anifeiliaid yn ymddwyn, ac rydym wedi gweithredu’n llwyddiannus ar ran pobl sydd wedi eu hanafu’n ddifrifol gan anifeiliaid yn eu gweithle. Mae’r deunyddiau peryglus y mae’n rhaid i ffermwyr eu defnyddio yn eu gwaith bob dydd yn cynnwys meddyginiaethau, plaladdwyr, gwrteithiau neu ddeunydd trochi defaid, sy’n gallu achosi canlyniadau difrifol ar eu hiechyd.

Mae ein cyfreithwyr arbenigol wedi cael eu crybwyll mewn cyhoeddiadau megis y “Legal 500” a’r “Chambers Directory”. Mae’r disgrifiadau yn cynnwys "a walking encyclopaedia" "significant experience" a "a very efficient force to be reckoned with". Mae rhai o brif arbenigwyr y wlad mewn sawl disgyblaeth yn gweithio i JCP. Cydnabyddir ein harbenigedd gan gleientiaid sy’n cysylltu â ni o bob rhan o orllewin a de Cymru, a rhai hyd yn oed y tu hwnt i hynny. Byddem yn falch iawn o gael sgwrs anffurfiol, rhad ac am ddim, gyda chi i weld pa un a allwn ni eich cynorthwyo, a pha un a fyddem yn gallu eich cynrychioli ar sail “Dim Ennill, Dim Ffi”.

 

  • Matthew Owen
      • 01792 529 683
      • View profile
  • Arwel Davies
      • 01348 871 013
      • View profile
  • Meinir Davies
      • 01792 529 666
      • View profile
  • Betsan Powell
      • 01792 529 644
      • View profile
  • Elinor Laidlaw
      • 01792 529 698
      • View profile
  • Ian Rees
      • Ian Rees
      • Cyfarwyddwr a Phennaeth Anaf Personol
      • 01792 529 641
      • View profile
  • Georgia Davies
      • 01792 773 773
      • View profile
  • Naomi Headley
      • 01792 5529 667
      • View profile
  • Rhian Jervis
      • 01792 525 422
      • View profile
  • Sharon Jones
      • 01267 248 890
      • View profile
  • Angela Killa
      • 01267 248893
      • View profile
  • Delyth Morris
      • 01267 266 941
      • View profile
  • Eleri Roebuck
      • 01267 248 984
      • View profile