Meinir Davies
      • Meinir Davies
      • Ymgynghorydd - Cydlynydd y Gymraeg
    • Contact

      • 01792 529 666
      • View vcard
    • Department

    • Address

        • 01792 529 666

    Meinir Davies

    Ymgynghorydd - Cydlynydd y Gymraeg

    Wedi cymhwyso fel Cyfreithiwr ym 1993 bu Meinir yn gweithio am beth amser yn Llundain. Yn 2001 dychwelodd i Abertawe ac ymuno â Chyfreithwyr JCP gan arbenigo mewn Esgeuluster Meddygol. Wrth i JCP ehangu ar draws Gorllewin Cymru fe ddaeth yn amlwg bod angen creu rôl benodol i sicrhau a chefnogi budd y cleientiaid Cymraeg eu hiaith, boed yn newydd neu’n bodoli’n barod, a hefyd i gefnogi’r nifer cynyddol o staff Cymreig yn JCP. Yn 2012 felly apwyntiwyd Meinir yn Gydlynydd yr Iaith Gymraeg ar draws JCP.

    Mae’r rôl yn cynnwys creu a monitro Polisi Cymraeg y cwmni gyda’r nod o hyrwyddo’r gwasanaethau sydd ar gael i gleientiaid a chyfoethogi’r cyswllt gyda’r cyhoedd. Mae Meinir yn cydlynu cyfieithu dogfennau a deunydd darllen, a chydymffurfiaeth y cwmni gyda’r ddeddfwriaeth berthnasol. Ym mis Awst 2014 cafodd JCP amser llwyddiannus yn ymweld ag Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr gan gymryd stondin yno i ddathlu agor swyddfeydd yng Nghaerfyrddin. Yn yr un modd roedd JCP yn falch o noddi Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd yn 2018, gan gynnal ein Brecwast Busnes Cymreig cyntaf ar y Maes. Mae’r Brecwast Busnes Cymreig yn ddigwyddiad blynyddol bellach.

    Mae Meinir wedi ymddangos ar radio ac ar deledu yn hybu defnydd o’r Gymraeg mewn busnes ac mae’n hapus i ddelio gyda materion yn ffurfiol neu’n anffurfiol trwy gyfrwng y Gymraeg.

    Mae Meinir hefyd yn aelod o Bwyllgor Cymdeithas Cyfreithwyr Abertawe a’r Cylch ac yn chwarae rhan weithredol wrth helpu trefnu eu digwyddiadau.