Polisi Preifatrwydd

Mae Cyfreithwyr JCP yn ymrwymedig i sicrhau bod eich preifatrwydd wedi ei ddiogelu. Mae’r polisi preifatrwydd hwn yn esbonio sut yr ydym yn defnyddio’r wybodaeth yr ydym yn ei chasglu amdanoch, sut y gallwch ein cyfarwyddo os yw’n well gennych gyfyngu ar y defnydd o’r wybodaeth honno, a’r gweithdrefnau sydd gennym ar waith i ddiogelu eich preifatrwydd..

Yr wybodaeth yr ydym yn ei gasglu a sut yr ydym yn ei ddefnyddio.

Pan eich bod yn cofrestru ar gyfer ein gwasanaeth mae angen i ni wybod eich enw, cyfeiriad post, cyfeiriad e-bost, rhif ffôn, rhif eich cerdyn credyd neu ddebyd a’r dyddiad terfyn.
 
Rydym yn casglu’r wybodaeth hon i ganiatáu i ni brosesu eich cofrestriad, a phrosesu unrhyw gyfarwyddiadau a thaliadau a wneir gennych. Yna, defnyddir yr wybodaeth berthnasol gennym ni i ddarparu datganiadau o’ch cyfrifon ar eich cyfer ac i gyfathrebu â chi ynglŷn ag unrhyw fater sy’n ymwneud â’r modd yr ymdrinnir â’ch cyfrif yn gyffredinol.
 
Gallem hefyd ddefnyddio ystadegau a gwybodaeth gyfanredol ar gyfer monitro’r defnydd o’r wefan er mwyn ein cynorthwyo i ddatblygu ein gwefan a’n gwasanaethau, a gallem  ddarparu gwybodaeth gyfanredol o’r fath i drydydd parti. Ni fydd yr ystadegau hyn yn cynnwys gwybodaeth a allai gael ei defnyddio i adnabod unrhyw unigolyn.

Efallai y byddwn yn dymuno darparu gwybodaeth i chi am nodweddion arbennig ein gwefan ac am unrhyw wasanaeth neu gynnyrch arall yr ystyriwn y byddent o ddiddordeb i chi. Os yw’n well gennych beidio â chael yr wybodaeth hon, anfonwch e-bost heb neges ynddo at law@jcpsolicitors.co.uk

Ein defnydd o cwcis a thechnoleg casglu gwybodaeth arall.

Yn ystod unrhyw ymweliad â’n gwefan, bydd y tudalennau a welwch ynghyd â thestun byr a elwir yn ‘cwci’ yn cael ei lawrlwytho i’ch cyfrifiadur.
 
Mae llawer o wefannau yn gwneud hyn, oherwydd bod cwcis yn hwyluso nodweddion defnyddiol, fel y gallu i wybod pa un a yw defnyddiwr wedi mewngofnodi’n llwyddiannus i’r wefan, neu ddarganfod pa un a yw’r cyfrifiadur (a’r defnyddiwr yn ôl pob tebyg) wedi ymweld â’r wefan o’r blaen.
 
Defnyddiwn gwcis hefyd i wella eich profiad o ddefnyddio’r wefan. Gall analluogi’r cwcis newid y modd y mae’r wefan hon yn gweithio i chi.
 
Gall y cyhoedd gael mwy o wybodaeth am gwcis yn http://www.ico.gov.uk/for_the_public/topic_specific_guides/online/cookie...
 

Analluogi cwcis

Gallwch ddefnyddio eich porwr (e.e. Internet Explorer) i wneud y canlynol:

  • Dileu pob cwci
  • Rhwystro pob cwci
  • Galluogi pob cwci
  • Rhwystro cwcis trydydd parti
  • Clirio pob cwci wrth gau’r porwr
  • Agor sesiwn “pori preifat”
  • Gosod ychwanegion ac ategion i ymestyn ymarferoldeb y porwr​
I gael mwy o wybodaeth am sut i wneud hyn ar eich porwr chi, ewch i http://www.ico.gov.uk/for_the_public/topic_specific_guides/online/cookie...
 

Y modd yr ydym yn diogelu eich gwybodaeth

Nid yw’r we yn gyfrwng diogel, ond rydym ni wedi rhoi amryw o weithdrefnau diogelu ar waith fel y nodir yn y polisi hwn.
 
Rydym yn defnyddio technoleg Secure Socket Layer (SSL), technoleg safonol y diwydiant i dalu ar-lein. Golyga hyn fod eich holl fanylion personol a manylion eich cardiau wedi eu diogelu gan ddefnyddio amgryptiad 128 bit pan gaiff eich manylion eu trosglwyddo dros y We. Diogelir ein gwefan gan Verisign. Cliciwch ar logo Verisign ar y dde i gadarnhau dilysrwydd ein tystysgrif diogelu.
 

Gwirio eich bod yn defnyddio gwefan diogel

Pan fo’ch porwr yn arddangos y dudalen i dalu ar-lein fe sylwch fod yr URL ar ben y dudalen pori yn dechrau gyda https yn hytrach na http. Byddwch hefyd yn gweld eicon clo caeedig ar y gornel dde ar waelod ffenestr eich porwr. Rhowch eich llygoden uwchben y clo am ychydig a dylech weld cryfder yr amgryptiad. Dylai fod yn dangos “SSL Secured 128 bit” o leiaf.
 
Os ydych chi’n rhannu eich Cyfrifiadur Personol neu’n defnyddio adnodd mewn man cyhoeddus:
 
Gwnewch yn siŵr nad oes neb yn eich gwylio wrth i chi gofnodi eich manylion a chaewch ffenestr y porwr, ac os yw’n berthnasol, allgofnodwch pan eich bod wedi gorffen.
 
Rydym ni hefyd yn cadw eich gwybodaeth yn gyfrinachol. Mae polisïau mewnol Cyfreithwyr JCP Cyf yn cynnwys storio a chael at eich gwybodaeth, yn ogystal â’i datgelu.
 

Gwerthu'r Busnes

Yn y sefyllfa annhebygol bod y busnes hwn yn cael ei werthu neu ei integreiddio â busnes arall, gallai eich manylion gael eu datgelu i’n cynghorwyr ac unrhyw brynwyr arfaethedig a’u cynghorwyr hwy, a byddant yn cael eu trosglwyddo i berchnogion newydd y busnes.

Diweddaru eich Manylion

Os yw’r wybodaeth yr ydych wedi ei rhoi i Gyfreithwyr JCP yn newid, os ydych yn newid eich cyfeiriad e-bost, eich enw, neu eich manylion talu er enghraifft, neu os ydych chi’n dymuno diddymu eich cofrestriad, gwnewch yn siŵr bod y manylion cywir gennym drwy anfon e-bost at law@jcpsolicitors.co.uk

Eich caniatâd

Wrth gyflwyno eich gwybodaeth yr ydych yn caniatáu i’r wybodaeth honno gael ei defnyddio fel y nodir yn y polisi hwn. Os byddwn yn newid ein polisi preifatrwydd byddwn yn cyhoeddi’r newidiadau ar y dudalen hon, ac efallai y byddwn yn rhoi hysbysiad ar dudalennau eraill ar y wefan, er mwyn i chi fod yn ymwybodol bob amser o’r wybodaeth yr ydym yn ei chasglu a sut y byddwn yn ei defnyddio. Byddwn hefyd yn anfon e-bost atoch os byddwn yn gwneud unrhyw newidiadau, fel y gallwch wedyn roi caniatâd o’r newydd i ni ddefnyddio eich gwybodaeth. Bydd parhau i ddefnyddio’r gwasanaeth yn dangos eich bod yn cytuno i unrhyw newidiadau o’r fath.
 
Oherwydd natur fyd-eang seilwaith y We, efallai, wrth iddi gael ei chludo, y trosglwyddir yr wybodaeth a ddarperir gennych i wledydd y tu allan i’r Ardal Economaidd Ewropeaidd nad oes ganddynt amddiffyniadau tebyg ar waith ynglŷn â’ch data a’r defnydd ohono fel y rhai a ddisgrifir yn y polisi hwn. Serch hynny, rydym ni wedi cymryd y camau a amlinellir uchod i geisio gwella diogelwch eich gwybodaeth. Wrth gyflwyno eich gwybodaeth rydych yn rhoi caniatâd i’r trosglwyddiadau hyn.
 

Sut i gysylltu â Chyfreithwyr JCP

Croesawn eich barn am ein gwefan a’n polisi preifatrwydd. Os hoffech gysylltu â ni gydag unrhyw ymholiadau neu sylwadau, yna cysylltwch â’n Swyddog Risg a Chydymffurfiad, Natalie Corbi ar 01792 529621 neu drwy e-bost yn natalie.corbi@jcpsolicitors.co.uk neu ffoniwch ni ar  01792 773773 neu anfon e-bost at law@jcpsolicitors.co.uk