Cyflogai, Gweithiwr neu'n Hunangyflogedig ar y Fferm

Nid yw’n anarferol i ffermwyr gyflogi gweithwyr ar y fferm ond beth yw statws y gweithwyr hyn, o ran cyfraith cyflogaeth?

Mae hyn yn bwysig oherwydd gall “gweithiwr”(worker) neu “gyflogai”(employee) sefydlu hawliau penodol o dan Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 1996 sy’n golygu bod posibilrwydd o ymgyfreitha yn y Tribiwnlys Cyflogaeth.

Mae rhai o’r hawliau cyflogaeth hyn yn cynnwys: gwyliau â thâl; yr hawl i beidio â chael eich diswyddo yn annheg; seibiannau yn ystod oriau gwaith; tâl dileu swydd; tâl salwch statudol; isafswm cyflog cenedlaethol; tâl yn lle rhybudd…a mwy.

Fel y gallwch chi ddychmygu, mae gan y rhain y potensial i arwain at gostau annisgwyl os bydd eich gweithwyr yn penderfynu herio telerau eu statws a gwneud hawliadau.

Hefyd, mae cydnabod neu ddeall statws eich gweithwyr fferm yn bwysig, gan fod cyflogwyr yn atebol am weithredoedd eu cyflogeion (employees) wrth iddyn nhw wneud eu gwaith. Gelwir hyn yn ‘atebolrwydd dirprwyol’ (vicarious liability). Ar wahân i hynny, mae gan y ffermwr ddyletswydd gofal ynglŷn ag iechyd a diogelwch ei holl gyflogeion.

Efallai fod gennych chi gontract ffurfiol ar waith eisoes, sef “Cytundeb Ymgynghorol” neu rywbeth tebyg, a bod eich gweithwyr yn talu eu trethi eu hunain i Gyllid a Thollau ei Mawrhydi yn unol â’u statws hunangyflogedig. Efallai oherwydd hyn, eich bod yn credu nad oes perygl i neb wneud hawliadau yn eich erbyn yn y Tribiwnlys Cyflogaeth.

Fodd bynnag, hyd yn oed pan fo cytundebau ysgrifenedig o’r fath ar waith, nid ydyn nhw’n derfynol nac yn penderfynu gwir natur y berthynas rhyngoch chi a’r unigolyn o reidrwydd, h.y. p’un a ydyn nhw’n arwain at hawliau cyflogaeth. Ceir camsyniad neu gamddealltwriaeth yn aml fod cytundeb ffurfiol yn creu rhyw fath o amddiffyniad yn erbyn unrhyw hawliadau gan weithwyr unigol – nid yw hynny’n wir o reidrwydd (yn dibynnu ar ffeithiau pob achos unigol wrth reswm).

Mewn unrhyw achos a gaiff ei ddwyn gerbron y Tribiwnlys Cyflogaeth, sy’n ceisio ateb y cwestiwn “Ai perthynas gyflogaeth neu hunangyflogedig yw hon?”, bydd y barnwr yn edrych y tu hwnt i unrhyw gytundeb ffurfiol ac yn ystyried a oes ffactorau penodol sy’n awgrymu bod perthynas gyflogaeth.

Dyma’r ffactorau hynny:

  • Mae’n rhaid i’r unigolyn wneud y gwaith yn bersonol, h.y. heb fod â’r hawl i benodi dirprwy. Hwn yw un o’r ffactorau pwysicaf wrth benderfynu natur y berthynas.
  • Mae gan y ffermwr reolaeth o ddydd i ddydd dros y gweithiwr o ran pryd y mae’r gwaith yn cael ei wneud, sut y mae’r gwaith yn cael ei wneud, yr amser, yr oriau a ble y mae’r gwaith yn cael ei wneud ac yn y blaen. Hefyd, mae’r unigolyn yn gorfod dilyn rheolau, polisïau a gweithdrefnau’r gweithle. Mae’n werth sôn nad yw rheolaeth o ddydd i ddydd dros unigolyn yn hanfodol wrth benderfynu perthynas cyflogaeth, a gallai unigolyn sydd yn annibynnol gydag ymreolaeth i wneud ei waith o ddydd i ddydd gael ei ystyried yn weithiwr neu’n gyflogai.
  • Mae disgwyliad ar y ffermwr i ddarparu gwaith ac i’r unigolyn dderbyn y gwaith hwnnw.
  • A oes risg ariannol i’r unigolyn? Er ei fod mewn busnes ei hun, ai’r ffermwr sy’n penderfynu faint o dâl y mae’r unigolyn yn ei gael am y gwaith?
  • Mae’r ffermwr yn disgwyl gwasanaeth cyfyngol, ac fel arfer, ni chaiff yr unigolyn ddarparu gwasanaeth i unrhyw un arall.
  • Mae’r berthynas rhwng y ffermwr a’r unigolyn yn barhaol neu’n benagored. Efallai fod gwahaniaeth yn fan hyn rhwng unigolion sy’n gweithio am dymor byr ar dasgau penodol fel y cynhaeaf, lloia neu wyna o’i gymharu ag unigolyn sy’n gweithio’n hirdymor, er enghraifft godro neu ofalu am anifeiliaid.
  • Mae’r unigolyn yn cael ei drin yr un fath â gweddill y gweithlu, h.y. y rhai yr ystyrir eu bod yn gyflogeion ar y gyflogres (payroll) eisoes.
  • Mae’r ffermwr yn darparu offer personol i’r unigolyn i’w alluogi i wneud ei waith.

I osgoi neu leihau’r perygl o hawliad gan weithiwr yn y Tribiwnlys Cyflogaeth, dylech sicrhau, i’r graddau sy’n rhesymol bosibl, fod gan yr unigolyn ryddid i:

  • dderbyn neu wrthod gwaith;
  • gweithio i eraill;
  • penderfynu ar sut y caiff y gwaith ei wneud;
  • gosod ei gyfraddau tâl neu ei ffioedd ei hun;
  • defnyddio ei offer ei hun;
  • penodi rhywun arall i wneud y gwaith.

Dylech sicrhau bod unrhyw gontract ysgrifenedig rhyngoch yn adlewyrchu’r pwyntiau uchod, gan sicrhau hefyd fod ymddygiad y ddwy ochr yn cyd-fynd â thelerau'r contract. 

Yn olaf, mae’n werth holi a oes modd prynu ‘polisi yswiriant costau cyfreithiol’, sy’n darparu yswiriant i’ch diogelu rhag y risg o orfod talu iawndal a chostau cyfreithiol wrth amddiffyn achos yn y Tribiwnlys Cyflogaeth.


Cysylltwch â’n Tîm Cyflogaeth ar law@jcpsolicitors.co.uk neu ffoniwch 03333 208644.