Rhian Jervis
      • Rhian Jervis
      • Cyfarwyddwr-Eiddo Preswyl
    • Contact

      • 01792 525 422
      • View vcard
    • Department

    • Address

      • Llys Menter
      • Parc Ger y Llyn
      • Ffordd y Cwm Parc Anturiaeth
      • Abertawe
      • SA6 8QP
      • 01792 773 773
      • 01792 774 775

Rhian Jervis

Cyfarwyddwr-Eiddo Preswyl

Mae profiad ac arbenigedd Rhian yn y maes eiddo preswyl yn cael ei groesawi gan gleientiaid a chydweithwyr fel ei gilydd.  Cymera Rhian ran flaenllaw mewn marchnata o fewn y cwmni ac mae’n ddolen gyswllt i sawl asiant eiddo. Mae ei phrofiad a’i ffordd hawddgar, agos atoch wedi ei gwneud hi’n rhan annatod o’r tîm eiddo preswyl.

Mae Rhian yn mwynhau cysylltiad cyson gyda chleientiaid ac yn falch o’r perthynas cryf sydd ganddi hi a’r tîm gydag asiantau eiddo lleol a datblygwyr tai newydd. Pan yr ydych yn delio’n uniongyrchol gyda’r cyhoedd ar amser pan maent yn prynu neu werthu eiddo, rydych yn rhyngweithio gyda nhw ar adeg o’u bywyd a all fod yn heriol ac emosiynol. Mae Rhian yn eiriolwr dros fod yn hawdd mynd ati, yn ddibynadwy, ac yn helpu pethau i fynd yn eu blaen mor rhwydd ag sy’n bosib.

Gwnaeth Rhian radd yn y gyfraith ym Mhrifysgol Abertawe gan raddio yn 2003.

Ar ôl cymryd blwyddyn i ffwrdd o’i gyrfa, ymunodd Rhian â JCP yn 2004 fel paragyfreithiwr. Wedi penderfynu yr hoffai barhau gyda’i gyrfa yn y gyfraith fe wnaeth JCP ariannu ei chwrs i fod yn Weithredydd Cyfreithiol. Gan ddefnyddio ei sgiliau trefniadol gallodd astudio yn y cartref wrth weithio llawn amser a chodi ei dwy ferch.

Fe gymhwysodd Rhian fel Gweithredydd Cyfreithiol yn 2012 ac mae wedi gweithio yn y maes trawsgludo preswyl ers 2006. Mae JCP wedi ymrwymo i annog a chefnogi staff, ac yn dystiolaeth o hyn daeth Rhian yn Rheolwr Tîm yn 2016 ac yna’n Gyfarwyddwr ym mis Ebrill 2018.

Mae Rhian yn achrededig gan Lywodraeth Cymru fel Trawsgludwr i ‘Cymorth i Brynu-Cymru’, Cynllun Cymorth i Brynu Llywodraeth Cymru.

Mae Rhian hefyd ar Bwyllgor ‘Type 1derful’, elusen leol sy’n cynnig cefnogaeth i blant sydd â Diabetes Math 1 yn ardaloedd Castell Nedd Port Talbot a Phen y Bont. Mae defnyddio cyfryngau cymdeithasol fel tudalen gefnogol i rieni yn galluogi’r elusen i drefnu gweithgareddau , diwrnodau allan a phenwythnosau i ffwrdd i’r plant a’r teuluoedd. Darpara hyn ffordd wych i blant i ddod at ei gilydd i gyfarfod eraill sy’n dygymod â’r un cyflwr, a hefyd i deuluoedd i ddod i adnabod a chefnogi ei gilydd.

Mae Rhian yn mwynhau gwersylla gyda’i theulu, treulio amser gyda ffrindiau, cerdded ei chi, ac mae Rhian yn rhugl yn y Gymraeg.