Ian Rees
      • Ian Rees
      • Cyfarwyddwr a Phennaeth Anaf Personol
    • Contact

      • 01792 529 641
      • View vcard
    • Address

        • 01792 529 641

    Ian Rees

    Cyfarwyddwr a Phennaeth Anaf Personol
    Mae Ian wedi gweithio yn y maes arbenigol yma o’r gyfraith am bron 20 mlynedd ers cymhwyso ym 1998. Dealla Ian bod yr anafiadau a’r colledion a achosir gan ddamwain yn gallu bod yn amser ysgytiol , ac fe wnaiff popeth o fewn ei allu i leihau’r pwysau a’r gofid i’r cleient ac i deulu’r cleient.
    Mae Ian yn rhugl yn y Gymraeg ac yn hapus i ddelio gyda chleientiaid yn y Gymraeg neu’r Saesneg.
    Mae Ian yn Llywodraethwr yn yr ysgol gynradd leol ac yn diddori’n fawr mewn pob chwaraeon, yn enwedig rygbi, golff a chriced. Mae’n gefnogwr brwd o’r Elyrch, gan fynychu gemau gyda’i fab. Mae hefyd yn hyfforddi tîm pêl droed dan 12.

    Mae Ian yn ymdrin â hawliadau Anaf Personol cymhleth, gan gynnwys damweiniau ar y ffyrdd, damweiniau seiclo, damweiniau yn y gweithle a damweiniau yn y cartref.  Mae Ian yn canolbwyntio ar gael canlyniadau da dros unigolion sydd wedi eu hanafu, rhai sydd ag anafiadau sy’n newid bywyd, heb fod bai arnynt hwy eu hunain.