Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) - sut y gallwn ni eich helpu i baratoi

Daeth GDPR i rym yn y DU ar 25 Mai 2018 ac mae'n berthnasol i sefydliadau sy’n prosesu, cadw a throsglwyddo data personol. Mae GDPR yn cynrychioli datblygiad sylweddol ar y ddeddfwriaeth diogelu data gyfredol, yng ngoleuni’r oes ddigidol newydd. 

O dan GDPR, mae’n ofynnol i sefydliadau ddangos eu bod yn cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth newydd er mwyn bodloni’r egwyddor atebolrwydd newydd, a gyflwynir gan GDPR.   

Mae rhai o’r camau y gall eich sefydliad eu cymryd i sicrhau eich bod yn cydymffurfio â’r egwyddor newydd yn cynnwys:

  • Hyfforddi aelodau staff i’w gwneud yn ymwybodol o’r newidiadau i’r ddeddfwriaeth
  • Diweddaru eich telerau ac amodau
  • Diweddaru cytundebau cyflenwi â thrydydd partïon
  • Diweddaru eich hysbysiad preifatrwydd
  • Adolygu eich prosesau a’ch dogfennau Adnoddau Dynol

Gallwn fod o gymorth i chi o ran sicrhau eich bod yn cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth newydd, drwy gynnig y canlynol i chi:

  • Hyfforddiant pwrpasol wedi ei deilwra i’ch sefydliad chi a’i anghenion
  • Dogfennau cyfreithiol megis polisi diogelu data, hysbysiadau preifatrwydd, contractau â thrydydd partïon, a chytundebau cyflenwi gan gynnwys cytundebau rheolydd/prosesydd
  • Dogfennau Adnoddau Dynol megis hysbysiadau preifatrwydd cyflogeion ac ymgeiswyr am swydd, polisi diogelu data a chytundebau cyfrinachedd (os yw eich busnes ar ein pecyn cadw Gwasanaethau Adnoddau Dynol, darperir y dogfennau hyn yn ddi-dâl o dan y cytundeb hwn)
  • Templedi a chyngor ymarferol ar sut i gynnal eich archwiliadau data a’ch asesiadau o effaith ar gyfer diogelu data

Bydd ein gwasanaethau wedi eu teilwra ar gyfer eich busnes chi. Mae prisiau ar gael ar gais ac maent yn dibynnu ar ofynion ac anghenion eich sefydliad.

Mae dirwyon ar gyfer peidio â chydymffurfio â GDPR wedi cynyddu’n sylweddol o £500,000 i uchafswm o 20 miliwn Euro neu 4% o drosiant byd-eang sefydliad. Er y gallai’r dirwyon eu hunain fod yn ddigon dinistriol i’ch sefydliad, dylech hefyd ystyried y cyhoeddusrwydd negyddol a fyddai’n sicr o ddilyn o ganlyniad i fethu â chydymffurfio, a byddai hynny’n achosi mwy fyth o niwed. Mae’n bwysig felly eich bod yn cymryd camau i wneud yn siŵr eich bod yn cydymffurfio â GDPR a’ch bod yn parhau i wneud hynny ar ôl 25 Mai 2018.

Gallwn ni fod ar gael i’ch helpu ar bob cam o’r ffordd.

Pe byddech yn dymuno cael mwy o wybodaeth, cysylltwch ag un o aelodau ein tîm arbenigol ar 01792 529645.