Polisi Gofal am Gleientiaid

Mae JCP yn gwneud pob ymdrech i ddarparu gwasanaethau cyfreithiol rhagorol ynghyd â gofal o’r safon broffesiynol uchaf i’n cleientiaid. Rydym ni’n monitro ein perfformiad yn barhaus ac yn cynnal adolygiadau rheolaidd o’n systemau a’n gweithdrefnau er mwyn mireinio a gwella safon ein gofal am gleientiaid.

Er ein bod yn cydnabod mai rhagoriaeth mewn gwaith cyfreithiol yw ein swyddogaeth graidd, rydym yn ymwybodol  bod yn rhaid i hynny gael ei gyfuno a’i gefnogi gan y safon uchaf o ymddygiad proffesiynol a gofal am gleientiaid.

I gyflawni hynny, byddwn yn:

  • Cytuno ar y lefel o wasanaeth sydd ei angen arnoch gyda chi ymlaen llaw
  • Cynrychioli eich buddiannau
  • Rhoi cyngor cyfreithiol clir i chi y gallwch ei ddeall
  • Sicrhau eich bod yn deall yn union yr hyn yr ydych yn ymgymryd ag ef (gan gynnwys y risg o ennill neu golli) a’r costau posibl
  • Cadw eich busnes yn gyfrinachol
  • Sicrhau bod gennym yr adnoddau a’r arbenigedd i ymdrin â’ch achos
  • Rhoi gwybod i chi am ddatblygiad eich achos a dyddiadau pwysig i’w cofio ynglŷn â’ch mater
  • Rhoi’r wybodaeth gywiraf bosibl am gostau ar bob cam o’r achos.
  • Dim ond codi’r tâl a gytunwyd gyda chi yn ysgrifenedig ymlaen llaw.
  • Darparu ymateb prydlon i’ch holl alwadau ffôn, negeseuon e-bost a gohebiaeth
  • Ymdrin ag unrhyw gwestiynau neu ymholiadau yn brydlon
  • Ateb eich llythyrau neu eich negeseuon e-bost o fewn tri diwrnod gwaith