Telerau & Amodau, ac Ymwadiad Cyfreithiol

Gweler isod ein telerau ac amodau, a’n hymwadiad cyfreithiol. Onid oes gennych chi yr un o’r rhain ar gyfer eich gwefan busnes chi? Byddem ni’n falch iawn o helpu. Cysylltwch â’n Tîm Gwasanaethau Busnes heddiw.

1. Cyflwyniad

Nid yw’r deunyddiau sy’n ymddangos ar y wefan hon yn ffurfio cyngor cyfreithiol, ac fe’u darperir er gwybodaeth gyffredinol yn unig. Ni roir gwarant, naill ai’n ddatganedig nac yn ymhlyg, ar gyfer deunydd o’r fath. Ni fyddwn yn atebol am unrhyw gamgymeriadau technegol, golygyddol, teipio, na chamgymeriadau eraill na hepgoriad yn y wybodaeth a ddarperir ar y wefan hon, ac ni fyddwn ychwaith yn gyfrifol am gynnwys unrhyw ddelweddau na gwybodaeth o’r we sydd wedi’u cysylltu i’r wefan hon.
 
Mae defnyddio jcpsolicitors.co.uk (Y Wefan) a’r gwasanaethau a ddarperir trwyddo yn amodol ar eich bod yn derbyn y telerau ac amodau canlynol. Oni nodir yn wahanol, mynegir eich bod yn derbyn y Cytundeb Defnyddwyr hwn trwy eich defnydd o’r Wefan. Darperir y Wefan hon gan Gyfreithwyr JCP Cyf/JCP Solicitors Limited (Y Cwmni) o Llys Menter, Parc Busnes Ger y Llyn, Ffordd y Cwm, Y Parc Menter, Abertawe. SA6 8QP.
 
Mae’r Telerau ac Amodau hyn, ein Polisi Preifatrwydd a’n Polisi Ad-dalu, (ynghyd â’n “Cytundeb Defnyddwyr”) yn ffurfio ein cytundeb cyflawn gyda chi o ran defnydd di-dâl o’r Wefan ac mae’n disodli unrhyw gytundeb neu drefniant blaenorol gyda chi o ran y Wefan. Os defnyddir enw Cwmni yn eich cais i gofrestru, yna bydd y Cytundeb Defnyddwyr rhyngom ni a’r cwmni hwnnw ac o ganlyniad bydd unrhyw gyfeiriad at ‘chi’ neu ‘eich’ yn y Cytundeb Defnyddwyr hwn hefyd yn cyfeirio at y cwmni hwnnw. Mae prynu gwasanaethau oddi wrthym yn ddarostyngedig i’n Telerau ac Amodau Pryniant. Pe byddai diweddariad i’r Cytundeb Defnyddwyr hwn neu i’r Telerau ac Amodau Pryniant, byddwn yn dwyn hyn i’ch sylw ar dudalen hafan y Wefan.

 

2. Y modd y mae’r Wefan ar gael

Byddwn yn ceisio sicrhau bod y Wefan ar gael drwy’r dydd a’r nos heb unrhyw doriadau. Er hyn, rydym yn cadw’r hawl i ddiffodd y Wefan ar unrhyw adeg neu i gyfyngu mynediad i’r Wefan gyfan neu rannau ohoni yn ddirybudd. Gwasanaeth gwybodaeth gyffredinol yw’r Wefan. Gwnawn ein gorau i sicrhau nad yw’n gamarweiniol ond ni allwn gadarnhau bod y wybodaeth sydd ar gael ar neu drwy’r Wefan yn gywir, heb fod yn gamarweiniol, yn gyflawn nac yn  gyfredol.

3. Gwneud taliad ar-lein

3.1 Talu Anfoneb neu Daliad ar gyfrif o'n Costau

Er mwyn gwneud taliad tuag at, neu i dalu’n llwyr, anfoneb sydd wedi ei chyflwyno i chi, bydd angen i chi ddarparu gwybodaeth benodol am yr anfoneb honno er mwyn i ni allu prosesu’r taliad. Sicrhewch fod yr anfoneb ar gael gennych pan fyddwch yn gwneud y taliad. Gallwn dderbyn taliad o hyd at £5000 ar ein system dalu ar-lein.
 

3.2 Dim ond mewn punnoedd sterling y gellid derbyn taliadau.

3.3 Talu ffioedd trydydd parti

Nid ydym yn derbyn taliadau tuag at ffioedd trydydd parti megis ffioedd chwiliadau, ffioedd bargyfreithwyr neu flaendal morgais. Os byddwch yn camddefnyddio ein system yn y modd hwn bydd eich taliad yn cael ei ad-dalu, a gallai hyn gymryd hyd at 10 diwrnod gwaith ac achosi oedi sylweddol i’ch  achos. Ffoniwch ein Tîm Cyfrifon ar 01792 529606 i gael rhagor o wybodaeth.

4. Sut yr ydym yn gwarchod eich gwybodaeth

Rydym yn defnyddio technoleg Secure Socket Layer (SSL) sy’n cydymffurfio â safonau’r diwydiant ar gyfer taliadau ar y we. Golyga hyn bod eich holl fanylion personol a manylion eich cardiau wedi eu diogelu drwy ddefnyddio amgryptiad 128 bit pan fo’ch manylion yn cael eu trosglwyddo ar y we. Diogelir ein Gwefan gan Verisign. Cliciwch ar logo Verisign ar y dde i wirio dilysrwydd ein tystysgrif diogelwch.

4.1 Gwnewch yn siŵr eich bod yn defnyddio gwefan ddiogel

Pan fo’ch porwr yn arddangos tudalen i dalu ar-lein, byddwch yn sylwi bod yr URL ar ben ffenestr y porwr yn dechrau gyda https yn lle http. Byddwch hefyd yn gweld bod icon clo clap ar y dde ar waelod ffenestr eich porwr. Rhowch eich llygoden dros y clo clap am ennyd a dylech weld cryfder yr amgryptiad. Dylai fod o leiaf yn “SSL Secured 128 bit”.

4.2 Os ydych yn rhannu eich Cyfrifiadur Personol neu yn defnyddio adnodd mewn man cyhoeddus.

Gwnewch yn siŵr nad oes neb yn eich gweld yn mewngofnodi eich manylion a chaewch ffenestr y porwr ac, os yw’n berthnasol, allgofnodwch pan fyddwch wedi gorffen.

5. Defnyddio’r Wefan 

Cynlluniwyd y Wefan ar gyfer eich defnydd personol, anfasnachol chi, ac ni chewch ei ddefnyddio mewn unrhyw ffordd arall heb ein caniatâd ni. Ac eithrio’r hyn a ganiateir o dan y gyfraith berthnasol, ni chewch ddefnyddio, copïo, cyfieithu, cyhoeddi, trwyddedu na gwerthu'r Wefan nac ychwaith unrhyw ran o’r cynnwys na’r wybodaeth ar y Wefan na’r adeiledd, natur na chod y rhaglen heb ein caniatâd. Os ydych yn dymuno gwneud cais am ganiatâd, cysylltwch â law@jcpsolicitors.co.uk

6. Eich cyfraniadau

Rydych yn cytuno i ddefnyddio’r Wefan hon at ddibenion cyfreithlon yn unig ac y bydd unrhyw wybodaeth y byddwch yn ei darparu sy’n gysylltiedig â’r Wefan hon, neu sy’n ffurfio rhan ohoni, yn wir ac yn gywir hyd y gwyddoch, ac na fydd yn torri hawlfraint na nod masnach, nac unrhyw hawliau o ran preifatrwydd, cyhoeddusrwydd na phersonoliaeth, nac unrhyw hawl arall, boed hwnnw wedi ei gofrestru ai peidio, o unrhyw fath arall neu unrhyw berson arall, ac na fydd yn anweddus nac yn enllibus, yn gableddus nac yn ddifenwol, ac rydych yn cytuno i’n hindemnio yn erbyn pob hawliad, achos llys, iawndal, rhwymedigaethau a chostau gan gynnwys costau cyfreithiol sy’n deillio o ganlyniad i dorri’r amod hwn. Ni allwn roi unrhyw sicrwydd ynglŷn â gwybodaeth na chyfraniad a wneir gan unrhyw ddefnyddiwr arall a dylech fod yn wyliadwrus cyn gweithredu na ddibynnu fel arall ar unrhyw wybodaeth yr ydych yn ei chael drwy’r Wefan.

7. Dolennau

Mae’r Wefan yn cynnwys dolenni i wefannau eraill. Heb gyfyngu ar yr hyn yr ydym yn ei ddweud mewn mannau eraill, nid ydym yn cynrychioli nac yn gwarantu unrhyw beth ynglŷn â’r gwefannau hynny na’u cynnwys, nac y bydd y dolenni yn gweithio. Os ydych yn dymuno cael dolen i’r Wefan cysylltwch â law@jcpsolicitors.co.uk

8. Diogelu Data

Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau eich bod yn rhoi cyfeiriad e-bost cywir a dilys i ni, yn ogystal â manylion cyswllt eraill, a’ch bod yn ein hysbysu am unrhyw newidiadau iddynt, er na allwn roi unrhyw sicrwydd ynglŷn â defnyddwyr eraill y gallech gyfarfod â hwy wrth ddefnyddio’r Wefan. Rydym yn cydymffurfio gyda phob cyfraith berthnasol ar gyfer Gwarchod Data yn y DU. I gael disgrifiad o sut yr ydym yn defnyddio eich data personol, gweler ein Polisi Preifatrwydd.

9. Eiddo Deallusol

Mae’r Wefan hon, ei natur a’i strwythur, a’r cynnwys a’r wybodaeth sydd ar y Wefan, wedi eu diogelu drwy Hawlfraint a hawliau eraill sy’n ymwneud ag Eiddo Deallusol, ac ni chaniateir i chi eu defnyddio ac eithrio mewn modd y darperir ar ei gyfer yn y Cytundeb Defnyddwyr hwn. Mae awduron y dogfennau ar y Wefan hon yn mynnu eu hawliau moesol.

10. Ein Hatebolrwydd

Gan fod rhan helaeth o’r Wefan yn rhad ac am ddim ac ar gael i bawb, mae’n amod bod eich defnydd o’r Wefan ar eich risg eich hun. Ni fyddwn yn atebol i chi nac yn torri’r Cytundeb Defnyddwyr hwn oherwydd unrhyw oedi neu fethiant i gyflawni unrhyw ymrwymiad os yw’r oedi neu’r methiant am reswm y tu hwnt i’n rheolaeth resymol, gan gynnwys, heb gyfyngiad, rhwystro neu gyfyngu ar y wybodaeth sy’n dod i mewn i ac/neu’n mynd allan o’n rhwydwaith.
 
Ac eithrio fel y darperir yn unswydd ar ei gyfer yn y Cytundeb Defnyddwyr hwn rydym yn gwadu unrhyw ymhoniadau pellach, gwarantau, amodau neu delerau eraill, boed hwy’n ddatganedig neu’n ymhlyg, yn statudol, yn gyfochrog neu fel arall, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i warantau ymhlyg, amodau neu delerau eraill o ran safonau derbyniol, addasrwydd ar gyfer diben penodol neu ofal a medrusrwydd rhesymol.
 
Ac eithrio fel y darperir isod, gwadwn bopeth, ac ni fyddwn yn atebol mewn cyfraith contract na chyfraith camweddau (gan gynnwys, heb gyfyngiad, esgeuluster), neu fel arall sy’n codi o’r Cytundeb Defnyddwyr hwn neu’r Wefan ar gyfer: (i) colled neu niwed arbennig, canlyniadol neu anuniongyrchol; nac (ii) unrhyw golli ewyllys da neu enw da; nac (iii) unrhyw golled ariannol (gan gynnwys colli refeniw, elw, contractau, arbedion busnes neu ddisgwyliedig), ym mhob achos, hyd yn oed os byddwn wedi ein hysbysu am y posibilrwydd o’r fath golled neu niwed ni waeth sut y’i hachoswyd.
 
Er gwaethaf unrhyw ddarpariaeth arall yn y Cytundeb Defnyddwyr hwn, byddwn yn atebol i chi yn ddigyfyngiad am unrhyw farwolaeth neu anaf personol a achosir gan ein hesgeuluster ac i’r graddau y mae’r atebolrwydd yn codi o ddatganiadau a wnaed yn dwyllodrus gennym ni.

 

11. Y Print Mân

Gall y naill neu’r llall ohonom derfynu’r Cytundeb Defnyddwyr hwn ar unrhyw bryd. Ni chewch drosglwyddo unrhyw un o’ch hawliau na ddirprwyo unrhyw un o’ch rhwymedigaethau o dan y Cytundeb Defnyddwyr hwn heb gael caniatâd ysgrifenedig gennym ni ymlaen llaw. Os methwn ni â gorfodi unrhyw ddarpariaeth sydd yn y Cytundeb Defnyddwyr hwn ni fydd y methiant hwnnw yn ein hatal rhag gorfodi naill ai’r ddarpariaeth honno (neu ddarpariaeth debyg), ar adeg ddiweddarach. Nid oes unrhyw beth yn y Cytundeb Defnyddwyr hwn yn rhoi unrhyw fudd i unrhyw drydydd barti, na’r hawl i orfodi unrhyw amod o’r Cytundeb Defnyddwyr. Rheolir y Cytundeb Defnyddwyr hwn gan Gyfraith Lloegr, ac mae unrhyw anghydfod sy’n gysylltiedig â’r Cytundeb hwn yn ddarostyngedig i awdurdodaeth gyfyngol llysoedd Cymru a Lloegr. Nid oes unrhyw beth yn y Cytundeb Defnyddwyr hwn sy’n effeithio ar eich hawliau statudol fel defnyddiwr.

12. Cwynion

Os ydych chi’n credu bod eich hawliau eiddo deallusol neu hawliau eraill wedi eu torri gan y Wefan, neu os yr ydych chi’n anfodlon â’r Wefan neu unrhyw agwedd ar ein gwasanaeth, cysylltwch â law@jcpsolicitors.co.uk yn y lle cyntaf neu ffoniwch ni ar 01792 773 773.