Amdanom Ni

Mae ein cleientiaid yn cynnwys busnesau ac unigolion ym mhob rhan o Gymru a Lloegr, gan gynnwys rhai o brif sefydliadau benthyca y stryd fawr, sefydliadau amaethyddol, sefydliadau’r sector cyhoeddus a’r sector gwirfoddol, yn ogystal â chwmnïau preifat adnabyddus. Mae gennym berthynas agos a hirsefydlog â’n cleientiaid a gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant. Mae darpariaeth ein gwasanaethau yn canolbwyntio ar feysydd arbenigol, er mwyn sicrhau bod ein cleientiaid yn cael gwasanaeth arbenigol a rhagorol ledled de a gorllewin Cymru a thu hwnt.

Rhai ffeithiau am JCP:-
 
  • Sefydlwyd JCP ym mis Tachwedd 1990.
  • Mae gennym ni 20 o gyfarwyddwyr ac oddeutu 179 o aelodau staff ar hyn o bryd.
  • Mae ein Prif Swyddfa yn Abertawe, ond mae gennym swyddfeydd eraill yng Nghaerdydd, Caerfyrddin, Caerffili, Y Bont-faen, Hwlffordd, Abergwaun, Pontypridd a Thyddewi.
  • Ni yw’r cwmni cyfreithiol mwyaf yng Nghymru sydd â’i swyddfeydd i gyd yng Nghymru.
  • Gan ei fod yn fusnes blaengar, daeth y cwmni yn Strwythur Busnes Amgen (ABS) ym mis Gorffennaf 2012.
  • Uno â VJG Johns yn Abergwaun yn 2011 
  • Uno â Bissmire Fudge & Co yn Hwlffordd yn 2012
  • Uno â Peter Cross, hefyd yn Abergwaun, yn 2013
  • Uno â Pritchard Edwards yng Nghaerfyrddin yn 2014. 
  • Uno â Glamorgan Law yng Nghaerffili, Caerdydd, Y Bont-faen a Phontypridd yn 2017
  • Ar 6 Ebrill 2015, daeth Cyfreithwyr JCP yn gorff corfforedig sef Cyfreithwyr JCP Cyfyngedig
Gallwch ddarllen mwy am hanes JCP a’r cwmnïau yr ydym wedi uno â nhw yma.
 
Ond beth sydd yn ein gwneud ni’n wahanol?
 
Pobl yw prif bwyslais ein busnes, ynghyd ag ymrwymiad i arbenigedd a’r dyhead i fod yr arbenigwyr arweiniol yn ein meysydd. Rydym yn rhoi gwerth ychwanegol i’n holl gleientiaid, ac yn credu bod angen mwy na dim ond gwasanaeth cyfreithiol arnynt erbyn hyn. Rydym yn ymarferol, yn awyddus i gyflawni datrysiad, yn ddi-lol ac yn trafod materion mewn iaith ddealladwy â’n cleientiaid.