Cyfreithwyr Anghydfodau Eiddo

Pan fo anghydfod yn codi ynglŷn â’r Eiddo yr ydym yn byw ynddo, yn gweithio ohono neu yr ydym yn ei osod ar rent fel buddsoddiad, mae’n rhwydd i faterion fynd yn gymhleth ac i densiynau godi.

Pa un a ydych yn berchennog cartref neu yn landlord, gall yr anghydfodau hyn ddatblygu yn rhwydd i greu gwrthdaro sy’n costio nid yn unig mewn arian, ond mewn amser ac emosiwn hefyd. Yn JCP mae ein cyfreithwyr yn sylweddoli yr hyn y mae eiddo yn gallu ei olygu i bobl. Dyna pam yr ydym yn gwneud ein gorau glas bob dydd i gyflawni datrysiad yn brydlon, gan ddiogelu buddiannau ein cleientiaid. Mae gennym brofiad helaeth ym mhob maes o’r sbectrwm eiddo gan weithio gyda pherchnogion tir, datblygwyr, buddsoddwyr ac unigolion, sy’n golygu y gallwch ddibynnu arnom ni ar gyfer cyngor cyfreithiol, cefnogaeth barhaus a chynrychiolaeth uniongyrchol yn ystod yr anghydfodau eiddo mwyaf heriol.

Mae ein Gwasanaethau yn cynnwys:

•    Rhybudd a146 a fforffediad
•    Adennill symiau dyledus gan denantiaid masnachol
•    Adnewyddu tenantiaeth busnes a materion cysylltiol
•    Hysbysiad terfynu a materion perthnasol
•    Dadfeiliadau a diffyg atgyweirio
•    Tresmasu
•    Anghydfodau yn ymwneud â ffiniau
•    Hawliau tramwy cyhoeddus a phreifat
•    Ceisiadau am feddiant gwrthgefn
•    Malltod a phryniant gorfodol
•    Ceisiadau am waharddeb
•    Achosion adennill meddiant o eiddo preswyl 

Pam dewis Cyfreithwyr Anghydfodau Eiddo JCP?

Ein blaenoriaeth ni bob amser yn JCP yw ein cleientiaid. Pan eich bod yn cyfarwyddo un o’n cyfreithwyr anghydfodau eiddo byddwn bob amser yn gwneud ein gorau i ddeall eich sefyllfa unigryw chi, eich anghenion ynglŷn â’ch eiddo a’ch amcanion yn yr anghydfod. Yna, bydd eich arbenigwr eiddo penodedig yn gweithio’n agos gyda chi i benderfynu ar y strategaeth orau i’w defnyddio wrth symud ymlaen. Pan fo hynny’n bosibl, byddwn yn eich tywys trwy’r trafodaethau â’r ochr arall, gan roi cyngor strategol drwy gydol yr achos, er mwyn sicrhau bod y canlyniad yn bodloni eich anghenion ac y diogelir eich buddiannau. Gallwch ddibynnu arnom ni i ateb unrhyw gwestiynau neu ymdrin ag unrhyw bryderon a allai fod gennych yn ddi-oed ar bob cam o’r ffordd. A ninnau’n ddeiliaid balch achrediad Cymdeithas y Gyfraith, sef Lexcel, gallwch fod yn dawel eich meddwl y bydd ein cyfreithwyr anghydfodau eiddo yn ymdrin â’ch achos gyda’r gofal a’r ymroddiad mwyaf, gan gadw mewn cyswllt agos â chi o’r dechrau i’r diwedd.

Am fwy na 25 mlynedd, mae ein tîm o gyfreithwyr anghydfodau eiddo wedi bod yn helpu ein cleientiaid i ymdrin yn rhwydd ag achosion o wrthdaro cymhleth, pa un a oedd hynny trwy gyfryngu adeiladol neu ymgyfreitha pan oedd hynny’n angenrheidiol. Mae gan y tîm sylfaen gref o gleientiaid sy’n ehangu, gan ddangos ein bod yn cynnig ac yn darparu cyngor masnachol o’r ansawdd uchaf sy’n canolbwyntio ar fusnes. Er hynny, rydym ni bob amser yn ystyried ffyrdd newydd o wella'r gwasanaeth yr ydym yn ei ddarparu. Dyna pam mae ein cyfreithwyr anghydfodau eiddo wedi eu dewis yn ofalus am eu harbenigedd mewn cyfraith eiddo a’u profiad mewn datrys anghydfodau. Rydym yn credu bod ein cleientiaid yn haeddu’r gorau, ac o ran anghydfodau eiddo, gwyddom mai eich blaenoriaeth chi yw cyflawni canlyniad da o fewn amserlen resymol. Felly, pa un a yw eich achos yn ymwneud â ffiniau, tenant sy’n achosi problemau, neu adolygiadau rhent masnachol, gallwch ddibynnu arnom ni i ymdrin â’ch achos yn y modd mwyaf proffesiynol ac effeithiol, gan geisio cyflawni canlyniad derbyniol gyda chyn lleied o ffwdan â phosib.

Anghydfodau Eiddo Preswyl

Ar ôl i’r broses drawsgludo ddod i ben, dylai bywyd perchennog cartref fod yn rhwydd. Yn anffodus nid yw hyn yn wir bob amser. Gall anghydfodau eiddo preswyl godi am sawl rheswm, ond fe allant effeithio ar eich lles cyffredinol yn ogystal â’ch arian os na fyddwch yn ceisio cyngor a chymorth yn ddigon buan. Gan gynnwys anghydfodau rhwng cymdogion ynglŷn â ffiniau a chynlluniau ehangu, a sgwatwyr a thresmaswyr, mae ein cyfreithwyr anghydfodau eiddo yn falch o fod wedi cynorthwyo nifer fawr o gleientiaid i ymdrin â materion a wynebwyd ganddynt ynglŷn â’u cartrefi. Yn ogystal â hyn, mae ein harbenigwyr hefyd yn cynrychioli landlordiaid a thenantiaid, gan ddefnyddio ffyrdd amgen o ddatrys anghydfodau er mwyn helpu i annog cytundeb cyn gyflymed a chyda chyn lleied o gostau ag sy’n bosibl. Ein blaenoriaeth yw diogelu eich buddiannau chi - pa un a yw hynny yn ymwneud â landlord yn gwrthod gwneud gwelliannau neu nad yw eich tenant yn gwneud taliadau rhent misol.

Anghydfodau Eiddo Masnachol

Pa un a’ch bod yn berchen ar eiddo masnachol neu eich bod yn denant busnes, gall anghydfodau eiddo fygwth eich bywoliaeth. Yn JCP mae gan ein cyfreithwyr brofiad helaeth o gynrychioli landlordiaid a thenantiaid masnachol, gan weithio i gyflawni datrysiad prydlon gan amharu cyn lleied â phosib ar y busnes. Pa un a yw’n ymwneud â rhent, adnewyddu, atgyweirio neu newidiadau, bydd o fudd i chi geisio cyngor cyfreithiol cyn gynted â phosib. Os yw eich anghydfod eiddo masnachol wedi dwysau eisoes ac na ellir ei ddatrys trwy drafodaeth, gallwch fod yn dawel eich meddwl y gall ein tîm o arbenigwyr cymwysedig ddarparu'r cyngor strategol, y cymorth cyfreithiol a’r gynrychiolaeth sydd eu hangen arnoch i sicrhau canlyniad rhesymol.
 
Os oes gennych gwestiwn am anghydfod posibl ynglŷn ag eiddo yr ydych yn berchen arno neu’n ei rentu, cysylltwch ag aelod o’n tîm arbenigol o gyfreithwyr anghydfodau eiddo i drafod eich achos heddiw.

 

 

 

  • Matthew Owen
      • 01792 529 683
      • View profile
  • Arwel Davies
      • 01348 871 013
      • View profile
  • Meinir Davies
      • 01792 529 666
      • View profile
  • Betsan Powell
      • 01792 529 644
      • View profile
  • Elinor Laidlaw
      • 01792 529 698
      • View profile
  • Ian Rees
      • Ian Rees
      • Cyfarwyddwr a Phennaeth Anaf Personol
      • 01792 529 641
      • View profile
  • Georgia Davies
      • 01792 773 773
      • View profile
  • Naomi Headley
      • 01792 5529 667
      • View profile
  • Rhian Jervis
      • 01792 525 422
      • View profile
  • Sharon Jones
      • 01267 248 890
      • View profile
  • Angela Killa
      • 01267 248893
      • View profile
  • Delyth Morris
      • 01267 266 941
      • View profile
  • Eleri Roebuck
      • 01267 248 984
      • View profile