- Abertawe 01792 773 773
- Caerdydd 029 2022 5472
- Caerfyrddin 01267 234 022
- Abergwaun 1348 873 671
- Hwlffordd 01437 764 723
- Practis Gwledig 01267 266 944
- Tyddewi 01348 873 671
- Nodwch fod pob galwad ffôn yn cael ei recordio
Gwasanaethau Gwledig
Mae gan sawl aelod o’n tîm fuddiannau ffermio ac amaethyddol y tu allan i’r gweithle. Rydym ni eisiau i chi fod yn ffyddiog ein bod yn deall y gymuned wledig, ei chryfderau a’i heriau yn llawn.
Gall ein Tîm Practis Gwledig arbenigol, sydd wedi ei leoli yng Nghymru, eich cynorthwyo gydag ystod eang o wasanaethau cyfreithiol, pa un a ydych chi angen cymorth cyfreithiol â busnes amaethyddol, neu eich bod yn unigolyn y mae eich gofynion cyfreithiol yn cynnwys elfen amaethyddol neu wledig.
Mae’r Cwmni ar Banel yr NFU dros ardal de a gorllewin Cymru ers 2008, ac rydym hefyd yn cynrychioli aelodau’r NFU ar amrywiaeth eang o faterion cyfreithiol, a gallwn gynnig gostyngiad o 12.5% ar wasanaethau penodol i aelodau Ffermwyr a Thyfwyr yr NFU.
Rydym yn ymarferol ac yn realistig ein hymagwedd. Rydym yn rhoi amcangyfrif clir o’r costau, ac mewn rhai sefyllfaoedd gallwn hefyd weithio ar sail pris penodol.
Mae’r tîm Practis Gwledig yn JCP wedi’i asesu ar hyn o bryd fel cwmni Band 1 gan yr arweinlyfr cyfreithiol Chambers and Partners ac fel un o’r cwmnïau gorau yng Nghymru yn adran Amaeth ac Ystadau y Legal 500.
Dyfyniad gan glient a roddwyd i Chambers & Partners (Argraffiad 2016)
“Mae ganddynt adran arbenigol, a byddwn yn argymell fy holl gleientiaid yng Nghymru i fynd atynt.”
-
- Delyth Morris
- Cydlynydd Swyddfa
-
- Eleri Roebuck
- Uwch Gyfreithiwr Cyswllt - Eiddo Masnachol
-
- Malcolm Thomas MBE
- Rheolwr Cleientiaid Gwledig