Ein Hanes Hyd yn Hyn..........

Ym mis Tachwedd 2015 fe wnaethom ni ddathlu ein pen-blwydd yn 25 mlwydd oed. Defnyddiwyd y dyddiad hwn i ddathlu safon y gwaith yr ydym wedi’i wneud ar ran ein cleientiaid yn y gorffennol, yr ydym yn ei wneud nawr, ac y byddwn yn ei wneud yn ystod y pum mlynedd ar hugain nesaf a thu hwnt. Ond ble dechreuodd hyn i gyd?

Mae’r busnes yn deillio o gwmni o’r enw Holt, Jones & Collins a oedd â swyddfa fechan yng nghanol Abertawe. Oherwydd twf cyflym y cwmni, penderfynodd partneriaid Holt, Jones & Collins brynu swyddfa y tu allan i’r dre ym Mharc Menter Abertawe. Roedd hwn yn benderfyniad anodd ei wneud gan fod bron pob cwmni cyfreithiol arall yn Abertawe yng nghanol y dre bryd hynny.
 
Diddymwyd Holt, Jones & Collins ym 1990 a ffurfiwyd John Collins & Partners ar 1 Tachwedd 1990 gan Steve Penny, Keith Thomas, Paul Newman a John Collins.  Bryd hynny, 4 Partner ac 20 o staff oedd yn gweithio yn y cwmni.
 
Dros y blynyddoedd tyfodd y busnes yn Abertawe yn gyflym gan brofi bod symud i’r Parc Menter yn benderfyniad da, a dechreuodd cwmnïau cyfreithiol eraill ddod yno hefyd.
 
Dathlwyd ein pen-blwydd yn 20 oed ar 1 Tachwedd 2010 drwy gyflawni newid mentrus, ac er y cadwyd yr enw John Collins & Partners LLP ar y pryd, dechreuodd y busnes fasnachu o dan yr enw JCP Solicitors.
 
Roedd y wedd newydd hon yn adlewyrchu’r dull modern a phroffesiynol JCP o weithredu’r busnes.
 
Ym mis Ebrill 2015 daeth John Collins & Partners LLP yn gwmni cyfyngedig a newidiwyd yr enw yn swyddogol i JCP Solicitors Limited.
 
Mae rhai dyddiadau eraill pwysig ar gyfer y busnes yn cynnwys:
 
  • 1 Hydref 2011 - Uno â VJG Johns yn Abergwaun
  • 1 Hydref 2012 - Uno â Bissmire Fudge yn Hwlffordd
  • 1 Hydref 2013 - Uno â Peter Cross yn Abergwaun
  • 1 Hydref 2014 - Uno â Pritchard Edwards yng Nghaerfyrddin.
  • 25 Ebrill 2017 - Uno â Glamorgan Law yng Nghaerdydd, Caerffili, Y Bont-faen a Phontypridd
Ar hyn o bryd mae gan y busnes 34 o Gyfarwyddwyr, oddeutu 209 o aelodau staff, a swyddfeydd yn Abertawe, Caerdydd, Caerfyrddin, Caerffili, Y Bont-faen, Hwlffordd, Abergwaun, Pontypridd a Thyddewi.