Cyfreithwyr Anghydfodau Busnes

Bydd sawl busnes yn wynebu anghytuno neu anghydfod â busnes arall, corff arall, neu unigolyn ar ryw adeg. Rydym ni’n canolbwyntio ar gyflawni eich amcanion masnachol yn wyneb yr heriau anoddaf.

Gwyddom fod yn rhaid i ni wneud yr hyn a allwn i weithio o fewn eich amserlen a’ch cyllideb chi. Byddwn yn ystyried pa un a oes gwir angen cymryd camau cyfreithiol ac yn esbonio’n glir beth yw’r canlyniad mwyaf tebygol. Cymerwn agwedd ddoeth, gymesur, ac ystyriol o gostau ar gyfer pob anghydfod o’r cychwyn cyntaf, a byddwn yn rhoi cyngor ymarferol mewn iaith hawdd ei deall.
 
Mae ein gwasanaeth Anghydfodau Busnes yn ymdrin ag anghydfodau cyffredinol mewn busnes, anghydfodau yn y byd adeiladu a’r byd chwaraeon, ac ansolfedd.
 
Byddwn yn eich cynghori ar sut i osgoi anghydfod ac ar arfer orau, yn ogystal â darparu cyngor y tu ôl i’r llenni ar sut i ddatrys anghydfod yn anffurfiol ar y dechrau pan fo hynny’n bosibl. Pan na ellir osgoi anghydfod, mae’r sgiliau a’r profiad gennym ni i’ch helpu i gyflawni’r datrysiad iawn. Rydym yn deall yr heriau, yn rhoi sylw arbennig i fanylion, a chawn ganlyniadau da yn gyson.
 
Mae ein cleientiaid yn cynnwys busnesau ac unigolion o bob cwr o Gymru a Lloegr. Rydym o ddifrif ynglŷn â’n perthynas â’n cleient. Rydym yn ddigon mawr i ddarparu cyngor arbenigol mewn sawl maes, ond yn ddigon bychan i ddarparu gwasanaeth personol o’r safon uchaf. I’r perwyl hwnnw byddem yn falch iawn o gael sgwrs anffurfiol â chi er mwyn asesu sut y gall JCP eich cynorthwyo ymhellach.
 
"Roedd hwn yn achos anodd a chawsom ganlyniad boddhaol iawn. Roeddwn i a’m cyd-gyfarwyddwr yn falch iawn bod rhywun, am unwaith, wedi cyflawni’r hyn a addawyd."

 

 

  • Matthew Owen
      • 01792 529 683
      • View profile
  • Arwel Davies
      • 01348 871 013
      • View profile
  • Meinir Davies
      • 01792 529 666
      • View profile
  • Betsan Powell
      • 01792 529 644
      • View profile
  • Elinor Laidlaw
      • 01792 529 698
      • View profile
  • Ian Rees
      • Ian Rees
      • Cyfarwyddwr a Phennaeth Anaf Personol
      • 01792 529 641
      • View profile
  • Georgia Davies
      • 01792 773 773
      • View profile
  • Naomi Headley
      • 01792 5529 667
      • View profile
  • Rhian Jervis
      • 01792 525 422
      • View profile
  • Rhian Jones
      • 01437 771 160
      • View profile
  • Sharon Jones
      • 01267 248 890
      • View profile
  • Angela Killa
      • 01267 248893
      • View profile
  • Delyth Morris
      • 01267 266 941
      • View profile
  • Rachel Morris
      • 01267 248886
      • View profile
  • Eleri Roebuck
      • 01267 248 984
      • View profile
  • Malcolm Thomas MBE
      • 07837 109 599
      • View profile