Angela Killa
      • Angela Killa
      • Cyfarwyddwr - Cyfraith Teulu
    • Contact

      • 01267 248893
      • View vcard
    • Departments

    • Address

      • Ty Gelli Aur
      • 10 Stryd y Cei
      • Caerfyrddin
      • SA31 3JT
      • 01267 234 022
      • 01267 231 867

Angela Killa

Cyfarwyddwr - Cyfraith Teulu

Mae Angela yn Gyfreithwraig Gyswllt yn ein Tîm Cyfraith Teulu sydd wedi'i lleoli yn ein Swyddfa yng Nghaerfyrddin, ac mae’n arbenigo ym mhob agwedd ar Gyfraith Teulu gan gynnwys materion cymhleth plant, ysgariad a rhwymedïau ariannol.

Yn ddiweddar penodwyd Angela yn aelod o Bwyllgor Plant Resolution, a'r nod yw gweithio i amddiffyn plant yn y system cyfiawnder teuluol a helpu aelodau o Resolution i roi plant yn ganolog i gyfiawnder teuluol. A hithau eisoes wedi bod yn aelod o Resolution ers blynyddoedd lawer mae Angela wedi ymrwymo i hyrwyddo dull gweithredu adeiladol o ran materion teuluol sy'n ystyried anghenion y teulu cyfan a nawr mae hi’n edrych ymlaen at lunio a dylanwadu ar y dull yn y dyfodol mewn cysylltiad â materion sy'n ymwneud â phlant fel aelod o'r Pwyllgor Plant.

Mae Angela wedi bod yn aelod o Banel Plant Cymdeithas y Gyfraith ers dros 10 mlynedd – safon ansawdd cydnabyddedig ar gyfer ymarferwyr sy'n ymdrin â thrafodion cyfraith plant. Disgrifir Angela yn Legal 500 fel un sydd ag "enw da rhagorol wrth ymdrin â materion cymhleth plant...".

Mae Angela yn ysgrifennu colofn cyngor cyfreithiol bob pythefnos yn y Carmarthen Journal ar faterion trafodion cyfraith Teulu amserol. Mae Angela i'w gweld yn aml yn siarad am faterion cyfreithiol ar raglen gylchgrawn Cymraeg S4C, Prynhawn Da.

Y tu allan i’r gwaith, mae Angela i'w gweld yn treulio amser gyda'i theulu yn ogystal â beicio neu gerdded Cefn Gwlad Cymru. Mae Angela wedi cymryd rhan mewn nifer o rasys hanner marathon a'r CARTEN (taith feicio o Gaerdydd i Ddinbych-y-pysgod) ac yn aml yn codi arian i elusennau wrth wneud hynny.