Cyngor cyfreithiol arbenigol ar gyfer Elusennau a'r Trydydd Sector

 

Mae’n rhaid i sefydliadau elusennol a’r trydydd sector ymdrin â’r holl ddeddfwriaeth y mae’n rhaid i gwmnïau preifat ymdrin â hi, ond â’r gofynion ychwanegol sylweddol a orfodir ar elusennau a’r rhai sy’n gweithredu yn y trydydd sector.

Ar adeg pan fo ‘llywodraethu da’ ar flaenau meddwl rhanddeiliaid, mae’n rhaid i ymddiriedolwyr ofalu hefyd i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â’u cyfansoddiau a’u trefniadau gweithredu eraill yn ogystal â chydymffurfio â chyfraith elusennau gyffredinol.

Mae gan JCP arbenigedd o ran rhoi cyngor i elusennau a sefydliadau eraill sy’n gweithredu yn y trydydd sector ac rydym yn deall yn iawn pa mor bwysig yw cyngor amserol, arbenigol a rhagweithiol.

Mae ein gwasanaethau arbenigol ar gyfer Elusennau a’r trydydd sector yn cynnwys:

  • Contractau Masnachol
  • Eiddo Masnachol
  • Materion Cyfansoddiadol a Llywodraethu
  • Masnachol Corfforaethol
  • Data a Gofynion GDPR
  • Datrys Anghydfod
  • Cyflogaeth a Gwasanaethau Adnoddau Dynol Allanol
  • Ymgyfreitha Eiddo
  • Ewyllysiau a Phrofiant Dadleuol

Rydym ni hefyd yn gwybod bod materion annisgwyl yn “disgyn o’r awyr” ac rydym yn hyderus bod gennym yr arbenigedd a’r profiad i fod yn gynghorwr lleol y gallwch chi ymddiried ynddo.

Rydym yn gwybod y byddwch yn dymuno cael cyngor ac arweiniad cyfreithiol sy’n caniatáu i chi weithredu mewn modd sy’n gydnaws â’ch ethos, ond sy’n synhwyrol yn fasnachol, yn realistig ac yn effeithiol o ran cost.

Er mwyn sicrhau eich bod yn derbyn gwasanaeth rhagorol bob tro, rydym yn darparu pwynt cyswllt pwrpasol i bob Cleient – ni chewch eich pasio o bared i bost!

Rydym wedi ein cydnabod gan feibl arweiniol y diwydiant, The Legal 500, am y gwasanaethau yr ydym yn eu darparu yn y sector hwn. Gallwch fod yn dawel eich meddwl eich bod yn defnyddio’r tîm cyfreithiol gorau posibl i ddiwallu’ch anghenion.

Mae ein Cleientiaid yn cytuno.....

“Mae JCP yn darparu gwasanaeth prydlon ac ymatebol bob amser, ac yn cadw llygad ar y gost. Byddwn i’n sicr yn eu hargymell.”
Sandra Dade, Rheolwr Elusen, Paul Sartori Foundation

  • Matthew Owen
      • 01792 529 683
      • View profile
  • Arwel Davies
      • 01348 871 013
      • View profile
  • Chris Davies
      • 01792 525474
      • View profile
  • Meinir Davies
      • 01792 529 666
      • View profile
  • Rhys Evans
      • Rhys Evans
      • Cyfarwyddwr a Phennaeth Practis Gwledig
      • 02920 379568
      • View profile
  • Betsan Powell
      • 01792 529 644
      • View profile
  • Elinor Laidlaw
      • 01792 529 698
      • View profile
  • Ian Rees
      • Ian Rees
      • Cyfarwyddwr a Phennaeth Anaf Personol
      • 01792 529 641
      • View profile
  • Ruth Dalling
      • 01792 525421
      • View profile
  • Georgia Davies
      • 01792 773 773
      • View profile
  • Beth Evans
      • Beth Evans
      • Cynorthwy-ydd Cyfreithiol - Eiddo Preswyl
      • 01348 871 041
      • View profile
  • Zoe Fletcher
      • Zoe Fletcher
      • Cyfreithiwr Cyswllt - Cyfraith Gorfforaethol a Masnachol
      • 02920 391912
      • View profile
  • Naomi Headley
      • 01792 5529 667
      • View profile
  • Rhian Jervis
      • 01792 525 422
      • View profile
  • Rhian Jones
      • 01437 771 160
      • View profile
  • Sharon Jones
      • 01267 248 890
      • View profile
  • Angela Killa
      • 01267 248893
      • View profile
  • Luke Leonard
      • 01792 525406
      • View profile
  • Delyth Morris
      • 01267 266 941
      • View profile
  • Rachel Morris
      • 01267 248886
      • View profile
  • Eleri Roebuck
      • 01267 248 984
      • View profile
  • Malcolm Thomas MBE
      • 07837 109 599
      • View profile
  • Gemma Weston
      • 017925 25425
      • View profile