Cyfreithwyr JCP yn Cipio Gwobr NFU Am Gymorth Cyfreithiol Rhagor

Mae Cyfreithwyr JCP, un o'r cwmnïau cyfreithiol mwyaf adnabyddus yn Ne Cymru, yn falch o fod wedi ennill Gwobr Rhagoriaeth Panel Cyfreithiol Tim Sell NFU 2021.

Mae JCP, sydd â swyddfa yng Nghaerfyrddin, yn un o ddau gwmni cyfreithiol yn unig yng Nghymru a ddewiswyd yn benodol gan y sefydliad ffermio blaenllaw i ddarparu cyngor cyfreithiol hanfodol i'w aelodau ledled Cymru, fel rhan o ystod o wasanaethau'r NFU.

Dywedodd Rory Hutchings, Cyfarwyddwr a Phennaeth Practis Gwledig: “Rwy'n falch iawn o dîm Practis Gwledig JCP am ennill y wobr hon, yn ystod yr hyn sydd wedi bod yn gyfnod anodd iawn i'n cleientiaid ffermio. Mae Covid wedi cael effaith enfawr ar fywoliaeth a bywydau gwaith ein cleientiaid gwledig ac rydym ni wedi gweithio'n galed iawn i'w cefnogi â hyn drwy ddarparu'r cyngor cyfreithiol gorau. Mae ein timau wedi bod dan bwysau ychwanegol hefyd ac nid ydyn nhw erioed wedi colli golwg ar y ffaith bod ein cleientiaid yn dod atom ni am gymorth proffesiynol, am gyfathrebu clir, syml ac am ddull moesegol. Rwy'n falch iawn o'r hyn yr ydym ni wedi'i gyflawni ar gyfer aelodau'r NFU yng Nghymru/NFU Cymru dros y flwyddyn ddiwethaf ac ers 2008, pan wnaethom ymuno â phanel cyfreithiol yr NFU am y tro cyntaf. Edrychwn ymlaen at weithio gyda busnesau gwledig a ffermio lleol yn y blynyddoedd i ddod.”

I gael rhagor o fanylion am geisio cyngor cyfreithiol drwy'r NFU, ewch i www.nfuonline.com. I gael cymorth cyfreithiol gan dîm Practis Gwledig Cyfreithwyr JCP, ffoniwch: 03333 208 644