Camddiagnosis ac Oedi

Mae pob un ohonom wedi clywed am y digwyddiadau anffodus hynny pan fo rhywun wedi cael diagnosis anghywir, neu ddioddef oedi cyn cael diagnosis, a arweiniodd at anaf mwy difrifol na fyddai wedi digwydd fel arall.

Gall amgylchiadau o’r fath achosi gofid difrifol, caledi ariannol, a phoen a dioddefaint, ac mae’n hanfodol eich bod yn cyfarwyddo cyfreithiwr sydd â’r profiad iawn i allu eich cynrychioli.
 
Mae gennym brofiad helaeth o ymdrin â’r math hwn o hawliadau, gan gynnwys oedi cyn canfod canser, neu ddiagnosis anghywir o glefyd neu anaf, gan arwain at gael triniaeth neu lawdriniaeth ddiangen arall ac ati. Golyga ein profiad eang ym maes Esgeuluster Meddygol ein bod yn aml wedi ymchwilio i achosion tebyg, gan sicrhau bod gennym yr wybodaeth a’r sgiliau i allu ystyried yr holl ffeithiau mewn modd proffesiynol a gofalgar.
 
Os ydych chi’n credu bod posibilrwydd eich bod yn gymwys ar gyfer hawliad, cysylltwch ag aelod o’r tîm nawr, a byddem yn fodlon iawn ymweld â chi yn eich cartref neu yn yr ysbyty, neu gwrdd â chi yn ein swyddfeydd – pa un bynnag sydd fwyaf cyfleus i chi. Cofiwch fod y cyfarfod cyntaf yn rhad ac am ddim beth bynnag, felly nid oes gennych unrhyw beth i’w golli.

 

 

  • Matthew Owen
      • 01792 529 683
      • View profile
  • Arwel Davies
      • 01348 871 013
      • View profile
  • Meinir Davies
      • 01792 529 666
      • View profile
  • Betsan Powell
      • 01792 529 644
      • View profile
  • Elinor Laidlaw
      • 01792 529 698
      • View profile
  • Ian Rees
      • Ian Rees
      • Cyfarwyddwr a Phennaeth Anaf Personol
      • 01792 529 641
      • View profile
  • Georgia Davies
      • 01792 773 773
      • View profile
  • Naomi Headley
      • 01792 5529 667
      • View profile
  • Rhian Jervis
      • 01792 525 422
      • View profile
  • Rhian Jones
      • 01437 771 160
      • View profile
  • Sharon Jones
      • 01267 248 890
      • View profile
  • Angela Killa
      • 01267 248893
      • View profile
  • Delyth Morris
      • 01267 266 941
      • View profile
  • Rachel Morris
      • 01267 248886
      • View profile
  • Eleri Roebuck
      • 01267 248 984
      • View profile
  • Malcolm Thomas MBE
      • 07837 109 599
      • View profile