Hawliadau Iawndal Orthopedig

Os ydych chi wedi dioddef anaf orthopedig o ganlyniad i driniaeth esgeulus efallai bod gennych chi hawl i gael iawndal. I lawer o bobl, ni fydd iawndal byth yn eu digolledu'n llwyr am y poen a'r canlyniadau sy'n newid bywyd y maen nhw wedi eu dioddef, ond gall iawndal wneud gwahaniaeth sylweddol i'ch bywyd o ddydd i ddydd, yn enwedig os ydych chi wedi dioddef anaf sy'n newid bywyd o ganlyniad i driniaeth esgeulus.

Er enghraifft, gellir dyfarnu iawndal i ariannu therapi a chymorth hanfodol, triniaeth breifat, cymhorthion ac offer, yn ogystal â chostau addasu sy'n ofynnol i wneud eich cartref yn fwy cyfforddus a/neu hygyrch yn dilyn eich anaf, a gall pob un o’r rhain wella ansawdd eich bywyd yn sylweddol.

Beth yw anaf orthopedig?

Anaf cyhyrysgerbydol yw anaf orthopedig ac mae’n gallu cynnwys niwed i esgyrn, cymalau, gewynnau, tendonau a nerfau.

Pryd y gallwch chi hawlio iawndal ar gyfer anaf orthopedig a achoswyd gan driniaeth esgeulus?

Er mwyn cyflwyno hawliad esgeulustod orthopedig llwyddiannus mae angen i chi sefydlu eich bod chi wedi cael gofal neu driniaeth nad oedd yn cyrraedd safon resymol a’ch bod chi wedi dioddef niwed/anaf o ganlyniad i hynny.

Mae llawer o wahanol fathau o hawliadau esgeulustod orthopedig, a gallant gynnwys;

  • Methu â gwneud diagnosis, rheoli a/neu drin torasgwrn
  • Oedi cyn gwneud diagnosis
  • Camddiagnosis
  • Camgymeriadau llawfeddygol
  • Niwed i nerfau
  • Heintiau yn dilyn llawdriniaeth

I drafod anaf orthopedig yn fwy manwl gydag un o'n cyfreithwyr anafiadau arbenigol, cysylltwch â ni yma neu galwch 03333 209244 neu cysylltwch ag aelodau ein tîm isod.