Cynllun Gwneud Iawn am Gamweddau'r GIG

Dull o ymdrin â chwynion am wasanaeth y GIG yng Nghymru ac ymchwilio iddynt yw’r Cynllun Gwneud Iawn am Gamweddau’r GIG, a elwir hefyd yn “Cynllun Gweithio i Wella”. Mewn hawliadau Gwneud Iawn am Gamweddau’r GIG, gallai gwneud iawn olygu ymddiheuriad, neu ddyfarniad ariannol o iawndal hyd at £25,000.00 (y terfyn ar gyfer hawliadau Iawndal Gwneud Iawn am Gamweddau’r GIG).

Pryd y caiff iawndal ei dalu o dan y Cynllun Gwneud Iawn am Gamweddau’r GIG?

Er mwyn llwyddo i gael iawndal am hawliad esgeuluster Gwneud Iawn am Gamweddau’r GIG, bydd angen i chi fodloni bod ‘atebolrwydd cymwys’.

Prawf dau gam yw atebolrwydd cymwys, pryd y bydd angen i chi brofi y bu:

  1. Methiant i gyflawni dyletswydd
    Er mwyn bodloni’r elfen hon, bydd angen profi nad oedd rhyw ran o ofal neu driniaeth y mae claf wedi ei dderbyn o safon resymol ac a dderbynnir.
     
  2. Achosiad
    Ar gyfer y rhan hon o’r prawf, bydd angen profi ei bod yn debygol yr achoswyd rhyw niwed i glaf o ganlyniad i fethiant i gyflawni dyletswydd.

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth, gallwch gysylltu ag un o’n cyfreithwyr esgeuluster meddygol arbenigol yn ne Cymru neu adael eich manylion gyda’n tîm sgwrsio byw 24/7 a byddwn yn eich galw yn ôl ar adeg gyfleus. Rydym yn cynnig ymgynghoriad rhad ac am ddim dros y ffôn pryd y byddwn yn gwrando ar eich pryderon ac yn cynnig cyfarwyddyd ar y broses. 

 

  • Matthew Owen
      • 01792 529 683
      • View profile

Sut ydw i’n hawlio iawndal o dan y Cynllun Gwneud Iawn am Gamweddau’r GIG?

1. Codi pryder gyda’r Bwrdd Iechyd

Yn gyntaf, mae’n rhaid i chi hysbysu’r Bwrdd Iechyd am eich pryderon trwy wneud cwyn. Gellir gwneud hyn ar lafar, drwy e-bost neu drwy’r post. Rydym ni o’r farn mai’r hyn a fyddai orau i chi ei wneud yw drafftio llythyr sy’n cynnwys cefndir i’r problemau y mae claf wedi eu cael gyda Bwrdd Iechyd penodol, ac yna rhoi rhestr eitemedig o gwestiynau yr hoffech chi gael atebion iddynt. Rydym yn cynghori mai dim ond crynodeb cyffredinol y dylech ei roi wrth esbonio’r hyn sydd wedi digwydd yn y llythyr, a pheidio â chynnwys gormod o fanylion. 

Yn JCP Solicitors, rydym yn cynnig ymgynghoriad rhad ac am ddim dros y ffôn pryd y byddem yn hapus i gynnig cyfarwyddyd ar yr hyn a fyddai orau i chi ei gynnwys yn y llythyr.

Mae rhwymedigaeth ar Fwrdd Iechyd i ymchwilio i unrhyw gŵyn a godwyd o fewn blwyddyn i’r dyddiad y digwyddodd y mater dan sylw.

2. Canlyniad yr ymchwiliad             

Ar ôl i’r Bwrdd Iechyd ymchwilio i bryder, bydd yn darparu llythyr ymateb i chi yn cynnwys canlyniad ei ymchwiliad. Ceir pedwar gwahanol ganlyniad y gallech eu hwynebu fel rheol:

  1. Mae atebolrwydd cymwys yn bodoli.
    Byddai’r Bwrdd Iechyd wedi derbyn bod methiant i gyflawni dyletswydd ac achosiad yn bresennol yn eich achos. Gallai’r Bwrdd Iechyd ystyried gwneud cynnig i wneud iawn i chi ar yr adeg hon, neu efallai y bydd angen ymchwilio niwed cyffredinol neu brognosis claf er mwyn darparu cynnig gwneud iawn rhesymol.
     
  2. Efallai fod atebolrwydd cymwys yn bodoli.
    Byddai’r Bwrdd Iechyd wedi nodi y bu methiant i gyflawni dyletswydd, ond er hynny mae angen cynnal ymchwiliad pellach i nodi ble yr achoswyd anaf a cholled o ganlyniad i’r methiant. Gallai rhan o’r ymchwiliad hwn gynnwys cyfarwyddo arbenigwr meddygol annibynnol ar y cyd.
     
  3. Nid oes atebolrwydd cymwys yn bodoli.
    Byddai’r Bwrdd Iechyd o’r farn na fu unrhyw fethiant i gyflawni dyletswydd o ran y pryder a godwyd gennych. Fodd bynnag, nid yw hyn yn golygu nad oes dewisiadau eraill i chi fwrw ymlaen ymhellach â’ch hawliad. Gallai dewisiadau eraill fod yn briodol i chi fwrw ymlaen â hwy, fel trafod â’r Ombwdsmon, neu fwrw ymlaen â hawliad esgeuluster meddygol sifil.
     
  4. Mae gwerth tebygol eich hawliad yn rhy uchel.
    O dan yr amgylchiadau hyn, ni fydd y Bwrdd Iechyd fel rheol yn cadarnhau pa un a yw’n credu bod atebolrwydd cymwys yn bodoli ai peidio. Bydd y Bwrdd Iechyd yn datgan yn syml y byddai gwerth eich hawliad yn fwy na’r terfyn o £25,000.00 pe byddech chi’n llwyddiannus, ac felly ni ellir ystyried eich pryder o dan y Cynllun Gwneud Iawn am Gamweddau’r GIG. Ar yr adeg hon, byddai o fudd i chi drafod eich achos gyda chyfreithiwr i ystyried y dewis o fwrw ymlaen â hawliad esgeuluster meddygol sifil.

A oes cyfnod cyfyngiad?

Mewn hawliadau esgeuluster meddygol, ceir cyfnod cyfyngiad cyffredinol o 3 blynedd yn dilyn y dyddiad y daethoch yn ymwybodol eich bod wedi dioddef anaf sylweddol oherwydd triniaeth feddygol. Rydych yn wynebu perygl y bydd eich achos yn cael ei atal yn ôl statud os na fyddwch yn cyflwyno eich hawliad i’r llysoedd o fewn y cyfnod hwn.

O dan y Cynllun Gwneud Iawn am Gamweddau’r GIG, os bydd y Bwrdd Iechyd yn nodi bod atebolrwydd cymwys yn bodoli, neu efallai’n bodoli, yna caiff y cyfnod cyfyngiad hwn ei oedi o’r dyddiad pan gafodd eich cwyn ei chydnabod gyntaf gan y Bwrdd Iechyd. Fodd bynnag, byddai’n ddoeth ceisio cyngor cyfreithiol ar eich achos cyn gynted â phosibl oherwydd:

a) mae’n beryglus tybio bod y cyfnod cyfyngiad wedi ei oedi heb gadarnhad penodol gan y Bwrdd Iechyd Lleol; ac

b) os yn y pen draw bydd angen gwneud hawliad esgeuluster meddygol y tu allan i’r Cynllun Gwneud Iawn am Gamweddau’r GIG, byddem angen cynnal ymchwiliad a fyddai’n cymryd sawl mis. Os bydd rhywun yn cysylltu â ni ynglŷn ag achos sy’n rhy agos at ddiwedd y cyfnod cyfyngiad, efallai y bydd yn rhaid i ni wrthod gweithredu gan na fyddai digon o amser i gynnal yr ymchwiliad cyn iddi ddod yn angenrheidiol cychwyn achos llys.

Rydym yn cynnig ymgynghoriad rhad ac am ddim dros y ffôn a byddem yn falch o’ch cynghori ar ba un a fyddai o fudd i chi fwrw ymlaen â’r gŵyn neu gyfarwyddo cyfreithiwr i fwrw ymlaen â hawliad esgeuluster meddygol sifil.   

Faint fydd hyn yn ei gostio i mi?

Mae’n ddyletswydd ar y Bwrdd Iechyd i ariannu cost unrhyw gynrychiolaeth gyfreithiol ar gyfer y claf. Bydd hefyd yn talu costau ariannu unrhyw arbenigwr meddygol a allai fod yn angenrheidiol ar gyfer yr achos. Felly ni fyddai unrhyw gost i chi ei thalu o dan y Cynllun Gwneud Iawn am Gamweddau’r GIG.

Pwy gaiff fy nghynrychioli?

Os bydd y Bwrdd Iechyd yn canfod bod atebolrwydd cymwys yn bodoli, yna mae gennych hawl i gael cyngor cyfreithiol gan gwmni cyfreithwyr cydnabyddedig sydd ag arbenigedd hysbys mewn esgeuluster clinigol, ac sydd wedi’i achredu gan Gymdeithas y Gyfraith neu’r Panel Esgeuluster Clinigol Gweithredu yn erbyn Damweiniau Meddygol.

Mae JCP Solicitors yn falch o fod yn rhan o’r cwmnïau cydnabyddedig ac mae gennym dîm penodedig yn yr adran esgeuluster meddygol sy’n arbenigo mewn hawliadau Gwneud Iawn am Gamweddau’r GIG.

Dechreuwch hawliad Gwneud Iawn am Gamweddau’r GIG yn ne Cymru

Cysylltwch â’n cyfreithwyr hawliadau esgeuluster meddygol yn ne Cymru nawr trwy ’gysylltu ach swyddfa JCP leol neu defnyddiwch y ffurflen gyswllt i ofyn i ni eich galw chi.