Geni ar ran pobl eraill

Mae geni ar ran pobl eraill yn golygu bod plentyn yn cael ei gario drwy feichiogrwydd gan fenyw ar ran cwpl arall, ar ôl cytuno y gellir trosglwyddo cyfrifoldebau rhieiniol i’r darpar rieni pan gaiff y plentyn ei eni. Ceir dau fath o eni ar ran pobl eraill - geni ar ran pobl eraill traddodiadol, pan fo’r fam sy’n geni ar ran pobl eraill yn defnyddio wy ei hunan wedi ei ffrwythloni gan sberm y darpar dad. Y llall yw benthyca croth ar gyfer beichiogrwydd, pan fo’r fam sy’n geni ar ran pobl eraill yn cario plentyn biolegol y darpar rieni a genhedlir drwy ffrwythloni in vitro (IVF).

A yw hyn yn gyfreithlon?

Mae geni ar ran pobl eraill yn gyfreithlon yn y DU, ond nid yw’n gyfreithlon hysbysebu am famau sy’n geni ar ran pobl eraill nac fel mam o’r fath nac i roi na derbyn arian yn rhan o’r broses. Os byddwch yn dewis mam sy’n geni ar ran pobl eraill ar sail ryngwladol, mae’r sefyllfa yn llawer mwy cymhleth ac mae’n hanfodol i chi geisio cyngor cyfreithiol arbenigol.

Ai fi fydd y rhiant cyfreithiol ar ôl i’r babi gael ei eni?

Ystyrir mai’r fam sy’n geni ar ran pobl eraill, pa un a yw hi’n perthyn yn fiolegol i’r babi ai peidio, yw mam gyfreithiol y plentyn hyd nes bod y Llys Achosion Teuluol yn gwneud Gorchymyn Llys i drosglwyddo cyfrifoldeb rhieiniol i’r rhieni sydd wedi comisiynu’r babi. Ni chaiff y fam sy’n geni ar ran pobl eraill drosglwyddo ei chyfrifoldeb rhieiniol ei hunan, ac os yw’r fam sy’n geni ar ran pobl eraill yn briod, ystyrir mai ei gŵr yw tad cyfreithiol y plentyn yn gyfreithiol hyd nes bydd y Gorchymyn Llys wedi dod i rym.

Yn amlwg, ceir problemau posibl y dylai darpar rieni fod yn ofalus ynglŷn â nhw. Efallai fod gennych gytundeb a pherthynas gyfeillgar â’r fam sy’n geni ar ran pobl eraill, ond os bydd eich perthynas yn dirywio, neu os bydd eich mam sy’n geni ar ran pobl eraill yn newid ei meddwl, nid yw eich cytundeb benthyg croth yn gyfreithiol-rwymol nac yn orfodadwy drwy Lysoedd y DU. Gan mai hi yw’r fam gyfreithiol, enw’r fam sy’n geni ar gyfer pobl eraill fydd ar dystysgrif geni'r babi.

Beth yw’r broses gyfreithiol?

Dylech wneud cais am Orchymyn Rhieiniol, i drosglwyddo hawliau a chyfrifoldebau’r rhieni i chi fel y darpar rieni, o fewn chwe mis ar ôl i’r babi gael ei eni. Mae’n rhaid i’r ymgeiswyr fod yn 18 mlwydd oed o leiaf a bod naill ai yn briod neu mewn partneriaeth sifil, neu’n cyd-fyw. Mae’n rhaid i o leiaf un rhiant sy’n comisiynu fod yn rhiant biolegol i’r babi ac mae’n rhaid i o leiaf un darpar riant fod yn byw yn y DU. Yn olaf, mae’n rhaid i’r fam sy’n geni ar ran pobl eraill - ynghyd â’i gŵr, os yw hynny’n berthnasol - roi eu cydsyniad rhydd a diamod i’r gorchymyn gael ei wneud.

Os na ellir bodloni unrhyw un o’r meini prawf uchod efallai y bydd yn rhaid i’r darpar rieni wneud cais i’r Llys ar gyfer Gorchymyn Mabwysiadu yn hytrach.

Beth pe byddai’r fam sy’n geni ar ran pobl eraill yn tynnu’n ôl?

Fel yr ydym wedi ei sefydlu, nid yw unrhyw gytundeb benthyg croth a wnaed gennych yn gyfreithiol-rwymol, a gall amgylchiadau a theimladau newid, felly mae’n bosib i gytundeb geni ar ran pobl eraill chwalu. Yn ymarferol, mae llysoedd teulu wedi dangos eu bod yn cydymdeimlo â darpar rieni sy’n gwneud cais i gael cadarnhau cytundeb o’r fath. Er hynny, prif ddyletswydd y Llys fydd gweithredu er lles pennaf y plentyn.

A oes angen cyfreithiwr arnaf?

Mae geni ar ran pobl eraill yn broses anodd ac mae llawer yn y fantol, ac felly, mae’n ddoeth cael cyngor cyfreithiol proffesiynol cyn i chi wneud unrhyw gytundeb o’r fath.  Mae’n ddoeth hefyd cael cyfreithiwr wrth law pan fo angen ymdrin â’r Llys Achosion Teuluol, a fydd yn cynnwys dau wrandawiad fel arfer. Os bydd y rhain yn arwain at unrhyw gymhlethdodau, gallai eich achos gael ei atgyfeirio i’r Llys Sirol, neu’r Uchel Lys. Byddem bob amser yn argymell ceisio cyngor cyfreithiol arbenigol.

 

  • Matthew Owen
      • 01792 529 683
      • View profile
  • Arwel Davies
      • 01348 871 013
      • View profile
  • Meinir Davies
      • 01792 529 666
      • View profile
  • Betsan Powell
      • 01792 529 644
      • View profile
  • Elinor Laidlaw
      • 01792 529 698
      • View profile
  • Ian Rees
      • Ian Rees
      • Cyfarwyddwr a Phennaeth Anaf Personol
      • 01792 529 641
      • View profile
  • Georgia Davies
      • 01792 773 773
      • View profile
  • Naomi Headley
      • 01792 5529 667
      • View profile
  • Rhian Jervis
      • 01792 525 422
      • View profile
  • Rhian Jones
      • 01437 771 160
      • View profile
  • Sharon Jones
      • 01267 248 890
      • View profile
  • Angela Killa
      • 01267 248893
      • View profile
  • Delyth Morris
      • 01267 266 941
      • View profile
  • Rachel Morris
      • 01267 248886
      • View profile
  • Eleri Roebuck
      • 01267 248 984
      • View profile
  • Malcolm Thomas MBE
      • 07837 109 599
      • View profile