Cyfrifoldebau Cynnal Plant

Yn JCP byddwn bob amser yn eich cynghori i fynd at gyfryngiad teuluol er mwyn ceisio dod at gytundeb ariannol cyfeillgar gyda chyn bartner, mewn unrhyw fater sy’n ymwneud â phlant.  Cynghorwn yn gryf hefyd i chi gael cyngor wrth gyfreithiwr teuluol arbenigol cyn i chi gymryd unrhyw gamau.

Gall rhiant plentyn ymofyn am ddarpariaeth ariannol trwy’r Gwasanaeth Cynnal Plant. Canlyniad hwn fel arfer yw taliadau wythnosol neu fisol wedi eu cyfrifo yn ôl fformiwla sydd wedi ei seilio ar incwm y parti arall. Gallwch wneud cais trwy'r Gwasanaeth Opsiynau Cynnal Plant (www.cmoptions.org) am daliadau o dan y Gwasanaeth Cynnal Plant statudol. Byddwch yn ymwybodol bod yna ffioedd a thâl am ddefnyddio’r Gwasanaeth Cynnal Plant.

Fel arfer rôl y Gwasanaeth Cynnal Plant yw penderfynu pa faint y dylai rhiant sy’n talu ei roi i brif ofalydd y plentyn, ac wedyn cymryd camau gorfodi os na wneir taliadau. Fodd bynnag, cadwa’r llysoedd yr awdurdodaeth i wneud neu newid Gorchymyn am Gynhaliaeth i blant mewn rhai sefyllfaoedd hefyd, gan gynnwys Gorchmynion am swm uwch os ydy’r rhiant sy’n talu ag incwm sy’n uwch na £156,000 y flwyddyn, neu os ydy’r llys yn ystyried y dylai’r rhiant absennol gyfrannu at ffioedd ysgol.

Dewis arall yw gwneud cais am ddarpariaeth ariannol o dan Atodiad 1 o’r Ddeddf Plant 1989. O dan y ddeddf yma gall y llys wneud Gorchmynion Ariannol er budd unrhyw blant, a gall hwn gynnwys taliadau o gostau a gafwyd mewn cysylltiad â genedigaeth plentyn.

 

  • Matthew Owen
      • 01792 529 683
      • View profile
  • Arwel Davies
      • 01348 871 013
      • View profile
  • Meinir Davies
      • 01792 529 666
      • View profile
  • Betsan Powell
      • 01792 529 644
      • View profile
  • Elinor Laidlaw
      • 01792 529 698
      • View profile
  • Ian Rees
      • Ian Rees
      • Cyfarwyddwr a Phennaeth Anaf Personol
      • 01792 529 641
      • View profile
  • Georgia Davies
      • 01792 773 773
      • View profile
  • Naomi Headley
      • 01792 5529 667
      • View profile
  • Rhian Jervis
      • 01792 525 422
      • View profile
  • Rhian Jones
      • 01437 771 160
      • View profile
  • Sharon Jones
      • 01267 248 890
      • View profile
  • Angela Killa
      • 01267 248893
      • View profile
  • Delyth Morris
      • 01267 266 941
      • View profile
  • Rachel Morris
      • 01267 248886
      • View profile
  • Eleri Roebuck
      • 01267 248 984
      • View profile
  • Malcolm Thomas MBE
      • 07837 109 599
      • View profile