Cyfreithwyr Anghydfodau Cyd-fyw

Mae gan ein Tîm Cyfraith Teulu flynyddoedd lawer o brofiad o ymdrin ag anghydfodau rhwng rhai sy’n cyd-fyw, pan fo perthynas wedi dod i ben a phan nad oes priodas na phartneriaeth sifil i’w diddymu. Rydym ni’n deall eich hawliau mewn perthynas â’ch gilydd.

Ceir camdybiaeth gyffredin eich bod yn briod yng ngolwg cyfraith gwlad a bod gennych rai hawliau yn erbyn eich partner os ydych chi wedi byw gyda’ch partner am nifer benodol o flynyddoedd. O dan y gyfraith, nid oes y fath beth â “phriod cyfraith gwlad” yn bodoli ac os yw’ch perthynas yn mynd ar chwâl ni allwch ddibynnu ar y ddeddfwriaeth briodasol sy’n galluogi parau priod i hawlio oddi ar ei gilydd.
 
Os ydych chi’n byw gyda’ch partner a bod eich perthynas yn dod i ben, mae’n bwysig eich bod yn cael cyngor cyfreithiol ynglŷn â’r hyn y gallwch ei hawlio. Mae’n bur debyg y byddwch eisiau gwybod beth fydd yn digwydd i’r tŷ yr ydych wedi bod yn byw ynddo a bydd gennych gwestiynau am eich asedau eraill. Efallai fod gennych blant gyda’ch gilydd a bod gennych gwestiynau ynglŷn â gyda phwy y byddant yn byw a beth fydd yn digwydd pe byddai anghydfod ynglŷn â hynny.
 
Weithiau, y mater mwyaf dryslyd yw eich sefyllfa gyfreithiol fel rhywun sy’n cyd-fyw. Yn JCP rydym yn cynnig cyfarfod cyntaf am bris sefydlog er mwyn i chi allu deall eich hawliau a’r camau y gallwch eu cymryd i ddatrys y sefyllfa.

 

 

  • Matthew Owen
      • 01792 529 683
      • View profile
  • Arwel Davies
      • 01348 871 013
      • View profile
  • Meinir Davies
      • 01792 529 666
      • View profile
  • Betsan Powell
      • 01792 529 644
      • View profile
  • Elinor Laidlaw
      • 01792 529 698
      • View profile
  • Ian Rees
      • Ian Rees
      • Cyfarwyddwr a Phennaeth Anaf Personol
      • 01792 529 641
      • View profile
  • Georgia Davies
      • 01792 773 773
      • View profile
  • Naomi Headley
      • 01792 5529 667
      • View profile
  • Rhian Jervis
      • 01792 525 422
      • View profile
  • Sharon Jones
      • 01267 248 890
      • View profile
  • Angela Killa
      • 01267 248893
      • View profile
  • Delyth Morris
      • 01267 266 941
      • View profile
  • Eleri Roebuck
      • 01267 248 984
      • View profile