Cyfreithwyr Ysgariad

Gwyddom y gall hwn fod yn amser cythryblus a heriol iawn mewn bywyd, yn enwedig pan fo plant a/neu swm sylweddol o arian yn berthnasol i’r achos. Felly, gadewch i ni gymryd y pwysau oddi arnoch – cysylltwch â ni i drefnu eich apwyntiad cyntaf ar gyfer cael cyngor. Mae mor syml â hynny.

Gall tawelwch meddwl helpu i reoli straen y sefyllfa yn well. Cysylltwch â’n tîm cyfeillgar er mwyn trafod y broses. Rydym ni’n deall ei bod yn anodd iawn i chi wybod yn union pa wasanaeth yr ydych chi ei angen gan eich Cyfreithiwr Cyfraith Teulu, felly rydym yn cynnig pris sefydlog gostyngol o £150 + TAW ar gyfer y cyfarfod cyntaf pryd y byddwch yn cael cyngor cychwynnol i sefydlu beth yw eich sefyllfa a beth fyddai eich camau nesaf.

Ar ôl i chi gyfarfod â ni yn eich apwyntiad cyntaf ar gyfer cael cyngor, gallwn sefydlu beth sydd ei angen arnoch o’n safbwynt ni. Mae’n bosibl y gallwn ni roi amcangyfrif yn gynnar i chi o gost y broses ar gyfer ysgariad. Byddwn bob amser yn onest ac yn agored â chi o ran ein prisiau.

 
Beth sydd wedi ei gynnwys yn ein gwasanaeth ysgariad pwrpasol?
 
  • Cynhelir eich achos o’r dechrau i’r diwedd gan gyfreithiwr arbenigol.
  • Cynigir cyngor diderfyn ar faterion megis:
1. Y broses ysgaru
2. Unrhyw faterion yn ymwneud â phlant
3. Datrys anghydfodau ariannol
4. Diogelu eich asedau ar gyfer y dyfodol.
5. Pensiynau
 
  • Paratoir yr holl waith papur sy’n ymwneud â’r ysgariad a’i gyflwyno i’r llys ar eich rhan.
  • Rhoddir cyngor ar yr holl ddogfennau a ddaw atoch oddi wrth y llys.
  • Rhoddir cyngor ar y trefniadau ar gyfer eich plant.
  • Rhoddir cyngor ar gynhaliaeth plant.
  • Pan fo angen, ymdrinnir ag achos llys yn ymwneud â’ch plant.
  • Rhoddir cyngor ar sut i ymdrin ag asedau, incwm a rhwymedigaethau sy’n rhan o achos yr ysgariad.
  • Cynhelir trafodaethau ar faterion ariannol gyda’ch priod neu ei gyfreithiwr/chyfreithiwr.
  • Byddwn yn drafftio Gorchymyn Cydsynio i gofnodi cytundeb ariannol a’i gyflwyno i’r llys. Byddwn yn ymdrin ag unrhyw ymholiadau a fydd gan y llys ynglŷn â’r cytundeb.
  • Pan na ellir dod i gytundeb, byddwn yn cynnal achos ariannol yn y llys ac ymdrin â dogfennau’r llys ar eich rhan.
  • Byddwn yn gweithredu Gorchymyn Llys/Cydsynio gan gynnwys Gorchmynion Rhannu Pensiwn, ac yn ymdrin â thrawsgludo unrhyw eiddo priodasol, rhannu asedau ac ati.
  • Byddwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi trwy gydol yr achos ac yn eich cynghori am unrhyw gamau y dylid eu cymryd ar ôl eich ysgariad.
Gall ein tîm amyneddgar a gofalgar gynnig apwyntiadau ledled de a gorllewin Cymru i chi a’ch teulu. Mae gennym gyfreithwyr teulu penodedig yn ein holl swyddfeydd: yn Abertawe, Caerfyrddin, Caerffili, Caerdydd, Y Bont-faen, Hwlffordd, Abergwaun a Phontypridd.
 

 

  • Matthew Owen
      • 01792 529 683
      • View profile
  • Arwel Davies
      • 01348 871 013
      • View profile
  • Meinir Davies
      • 01792 529 666
      • View profile
  • Betsan Powell
      • 01792 529 644
      • View profile
  • Elinor Laidlaw
      • 01792 529 698
      • View profile
  • Ian Rees
      • Ian Rees
      • Cyfarwyddwr a Phennaeth Anaf Personol
      • 01792 529 641
      • View profile
  • Georgia Davies
      • 01792 773 773
      • View profile
  • Naomi Headley
      • 01792 5529 667
      • View profile
  • Rhian Jervis
      • 01792 525 422
      • View profile
  • Rhian Jones
      • 01437 771 160
      • View profile
  • Sharon Jones
      • 01267 248 890
      • View profile
  • Angela Killa
      • 01267 248893
      • View profile
  • Delyth Morris
      • 01267 266 941
      • View profile
  • Rachel Morris
      • 01267 248886
      • View profile
  • Eleri Roebuck
      • 01267 248 984
      • View profile
  • Malcolm Thomas MBE
      • 07837 109 599
      • View profile