- Abertawe 01792 773 773
- Caerdydd 029 2022 5472
- Caerfyrddin 01267 234 022
- Abergwaun 1348 873 671
- Hwlffordd 01437 764 723
- Practis Gwledig 01267 266 944
- Tyddewi 01348 873 671
- Nodwch fod pob galwad ffôn yn cael ei recordio
Hawliadau Iawndal Damweiniau ar y Ffyrdd
Mae Damweiniau ar y Ffyrdd yn gyffredin ond gall yr anafiadau a achosir gan y damweiniau hyn fod yn sylweddol gan newid bywyd. Dywedodd yr Adran Drafnidiaeth bod 160,378 o anafusion wedi'u cofnodi mewn damweiniau ar y ffyrdd yn 2018, gyda 25,484 o'r rheiny'n anafiadau difrifol.
Gall effaith damwain ar y ffordd fod mor fach ag ychydig o lympiau a chleisiau, ond gall damweiniau o'r fath hefyd arwain at anafiadau difrifol sy’n newid bywyd fel Anafiadau i'r Asgwrn Cefn, Anafiadau i'r Pen a'r Ymennydd ac yn anffodus mewn rhai achosion gall arwain at Ddamweiniau Angheuol.
Mae gan gwmni Cyfreithwyr JCP dîm Anaf Personol penodedig a phrofiadol a all eich helpu gydag ystod eang o faterion sy'n arwain at anafiadau, megis damweiniau car, damweiniau beicio, damweiniau beiciau modur yn ogystal â'r rhai sy'n ymwneud â cherddwyr.
Os yw damwain ar y ffordd wedi effeithio arnoch chi, gallai hawlio iawndal eich helpu i ariannu'r driniaeth breifat neu'r broses adsefydlu sydd ei hangen arnoch i gynorthwyo eich adferiad, gallai hefyd eich helpu'n ariannol os byddwch wedi colli enillion oherwydd eich bod i ffwrdd o'r gwaith, er mwyn i chi gael tawelwch meddwl ariannol wrth wella ar ôl eich damwain.
Mae pryderon cyffredin sydd gan gleientiaid cyn penderfynu a ddylid bwrw ymlaen â hawliad Anaf Personol yn cynnwys y mater o gost a lefel y gefnogaeth y byddant yn ei dderbyn gan eu cyfreithiwr. Rydym ni yma yn JCP yn arbenigo mewn ymdrin â hawliadau ar y sail na fydd cost i chi os na fyddwn ni’n ennill yr achos, felly does dim rhaid i chi boeni am fil enfawr wrth fwrw ymlaen â hawliad o'r fath. Ers newid yn y gyfraith yn 2013 mae cyfreithwyr yn gallu codi ffi llwyddiant o hyd at 25% o unrhyw iawndal a dderbynnir ond mae hyn yn gyfyngedig i'r hyn a ddyfernir am eich anafiadau a cholledion yn y gorffennol - mae'r ffi llwyddiant yn cael ei hasesu fesul achos.
Mae ein tîm Anafiadau Personol penodedig hefyd yn gyfeillgar ac yn hawdd mynd atynt ond hefyd mae ganddynt flynyddoedd o brofiad o fewn y sector hwn a byddant yn sicrhau eich bod yn cael y cyngor a'r gefnogaeth orau wrth fwrw ymlaen â hawliad a sicrhau'r canlyniad gorau posibl ar eich rhan. Gallwn hefyd eich helpu i drefnu'r adsefydlu preifat sydd ei angen arnoch cyn i'ch hawliad gael ei gwblhau, felly gallwch ddechrau eich adferiad heb oedi.
Cysylltwch â'n cyfreithwyr hawliadau Anaf Personol yn ne Cymru nawr trwy gysylltu â'ch swyddfa JCP leol, defnyddiwch y ffurflen gyswllt i ofyn i rywun eich ffonio neu siaradwch â'n tîm sgwrsio byw 24/7.
-
- Matthew Owen
- Cyfarwyddwr a Phennaeth Esgeuluster Meddygol
-
- Arwel Davies
- Cyfarwyddwr- Cynlluniau Oes
-
- Chris Davies
- Ymgynghorydd a Phennaeth Gofal Iechyd
-
- Meinir Davies
- Ymgynghorydd - Cydlynydd y Gymraeg
-
- Rhys Evans
- Cyfarwyddwr a Phennaeth Practis Gwledig
-
- Betsan Powell
- Cyfarwyddwr a Phennaeth Gwasanaethau Masnachol
-
- Ian Rees
- Cyfarwyddwr a Phennaeth Anaf Personol
-
- Ruth Dalling
- Cynorthwyydd Cymorth Busnes
-
- Georgia Davies
- Ariannydd Cyfreithiol
-
- Beth Evans
- Cynorthwy-ydd Cyfreithiol - Eiddo Preswyl
-
- Zoe Fletcher
- Cyfreithiwr Cyswllt - Cyfraith Gorfforaethol a Masnachol
-
- Naomi Headley
- Cynorthwyydd Cymorth Busnes
-
- Rhian Jervis
- Cyfarwyddwr-Eiddo Preswyl
-
- Sharon Jones
- Ysgrifenyddes Gyfreithiol - Cyfraith Teulu
-
- Angela Killa
- Cyfarwyddwr - Cyfraith Teulu
-
- Luke Leonard
- Cynorthwyydd Cymorth Busnes
-
- Delyth Morris
- Cydlynydd Swyddfa
-
- Eleri Roebuck
- Uwch Gyfreithiwr Cyswllt - Eiddo Masnachol
-
- Gemma Weston
- Cynorthwy-ydd Cyfreithiol - Y Llys Gwarchod