- Abertawe 01792 773 773
- Caerdydd 029 2022 5472
- Caerfyrddin 01267 234 022
- Abergwaun 1348 873 671
- Hwlffordd 01437 764 723
- Practis Gwledig 01267 266 944
- Tyddewi 01348 873 671
- Nodwch fod pob galwad ffôn yn cael ei recordio
Rhys Evans
Mae Rhys yn gweithredu ar ran cleientiaid amrywiol a chenedlaethol (fel datblygwyr eiddo, perchnogion tir, awdurdodau lleol, buddsoddwyr, meddianwyr, manwerthwyr cenedlaethol, elusennau, bancio, cleientiaid mawr yn y sector cyhoeddus) ar bob agwedd ar ymgyfreitha eiddo gan gynnwys anghydfodau rhwng landlordiaid a thenantiaid, anghydfodau ffiniau, hawliadau meddiant anffafriol, hawddfreintiau, cyfamodau, ffyrddfreintiau, hawliau tramwy cyhoeddus a phreifat a materion yn ymwneud â’r ddeddf waliau cydrannol.
Dros y blynyddoedd, mae Rhys wedi datblygu arbenigedd gwirioneddol mewn cynorthwyo'r cymunedau ffermio, o ran eu gofynion ymgyfreitha eiddo amaethyddol.
Mae gan Rhys brofiad helaeth hefyd o ddarparu cyngor pwrpasol a hynod dechnegol ar ystod eang o anghydfodau cymhleth a gwerth uchel gan ddeall anghenion cleientiaid a'r cyd-destun masnachol y maent yn gweithredu ynddo.
Mae Rhys yn gallu defnyddio'r amrywiaeth eang o adnoddau sydd ar gael iddo yn y tîm datrys anghydfodau i gynnig gwasanaeth cyflawn a chywir i gleientiaid. Mae Rhys yn deall pwysigrwydd diogelu busnes a safbwyntiau cyfreithiol unigol o ran hawliau eiddo.
Gall Rhys gysylltu â'i gleientiaid drwy gyfrwng y Gymraeg gan ei fod yn siaradwr Cymraeg rhugl.
Y tu allan i'r gwaith, fel aelod pwyllgor a swyddog datblygu yng Nghlwb Pêl-droed Undy Athletic, mae Rhys yn helpu i ddatblygu'r ased cymunedol hwn, ar ôl trafod caffaeliad rhydd-ddaliad y clwb yn flaenorol drwy drosglwyddiad asedau cymunedol gan yr awdurdod lleol. Mae Rhys yn mwynhau cerdded milltiroedd yn y wlad gyda'i deulu ifanc a'i gi, sgïo, a hwylio.