- Abertawe 01792 773 773
- Caerdydd 029 2022 5472
- Caerfyrddin 01267 234 022
- Abergwaun 1348 873 671
- Hwlffordd 01437 764 723
- Practis Gwledig 01267 266 944
- Tyddewi 01348 873 671
- Nodwch fod pob galwad ffôn yn cael ei recordio
Hawliadau Iawndal Anafiadau i'r Asgwrn Cefn
Mae effaith anafiadau i'r asgwrn cefn yn aml iawn yn newid bywydau. Ni all arian newid hyn, ond gall iawndal helpu i wneud bywyd ar ôl anaf ychydig yn haws i chi a'ch teulu.
Mae gan ein tîm arbenigol yn JCP brofiad o gynorthwyo ein cleientiaid ag anafiadau i'r asgwrn cefn a achosir gan ystod eang o amgylchiadau trawmatig. Mae'r rhain yn cynnwys damweiniau yn y gwaith, damweiniau traffig, llithriadau a chwympiadau ac esgeuluster meddygol.
Gall ymgymryd â hawlio iawndal fod yn eithaf brawychus ond mae ein cyfreithwyr profiadol ym maes anafiadau i’r asgwrn cefn yma i gymryd y straen yn ystod y cyfnod anodd hwn.
Mae gan lawer o bobl yswiriant costau cyfreithiol (sy'n aml yn gysylltiedig ag yswiriant cartref). Os nad yw hwn ar gael gallwn edrych ar gyllid "dim ennill/dim ffi" i chi. Ar gyfer y rhan fwyaf o fathau o ymgyfreitha, mae cost yn rhwystr ond nid yw’n rhwystr ar gyfer hawliadau anaf personol ac ni ddylech bryderu ynghylch hyn.
Mae'r ymgynghoriad cyntaf am ddim ac nid oes rheidrwydd arnoch i'n cyfarwyddo, nac i fwrw ymlaen â'r hawliad. Mewn achos hawliad anaf trychinebus, efallai y byddwn yn gweithio gyda chi am flynyddoedd lawer ac felly mae perthnasoedd personol i gyd yn bwysig ac mae'n hanfodol eich bod yn gyfforddus yn gweithio gyda JCP a'n cyfreithwyr.
Rydym yn falch iawn o fod yn aelodau o Gymdeithas Anafiadau i'r Asgwrn Cefn a ni yw'r unig aelodau sydd â swyddfeydd yng ngorllewin Cymru. Mae Cyfreithwyr JCP wedi gweithio gyda’r Gymdeithas Anafiadau i’r Asgwrn Cefn ers blynyddoedd lawer ac rydym wedi gweld yn uniongyrchol y gwaith pwysig iawn y maen nhw’n ei wneud i gynorthwyo pobl ag anafiadau i'r asgwrn cefn, a all newid bywydau, i fyw bywydau cyflawn.
I drefnu ymgynghoriad cychwynnol am ddim cysylltwch â ni yma, siaradwch â'n tîm sgwrsio byw, neu cysylltwch ag aelod o'n tîm arbenigol Anafiadau i’r Asgwrn Cefn De Cymru isod.
-
- Matthew Owen
- Cyfarwyddwr a Phennaeth Esgeuluster Meddygol
-
- Arwel Davies
- Cyfarwyddwr- Cynlluniau Oes
-
- Meinir Davies
- Ymgynghorydd - Cydlynydd y Gymraeg
-
- Betsan Powell
- Cyfarwyddwr a Phennaeth Gwasanaethau Masnachol
-
- Ian Rees
- Cyfarwyddwr a Phennaeth Anaf Personol
-
- Georgia Davies
- Ariannydd Cyfreithiol
-
- Naomi Headley
- Cynorthwyydd Cymorth Busnes
-
- Rhian Jervis
- Cyfarwyddwr-Eiddo Preswyl
-
- Sharon Jones
- Ysgrifenyddes Gyfreithiol - Cyfraith Teulu
-
- Angela Killa
- Cyfarwyddwr - Cyfraith Teulu
-
- Delyth Morris
- Cydlynydd Swyddfa
-
- Eleri Roebuck
- Uwch Gyfreithiwr Cyswllt - Eiddo Masnachol