- Abertawe 01792 773 773
- Caerdydd 029 2022 5472
- Caerfyrddin 01267 234 022
- Abergwaun 1348 873 671
- Hwlffordd 01437 764 723
- Practis Gwledig 01267 266 944
- Tyddewi 01348 873 671
- Nodwch fod pob galwad ffôn yn cael ei recordio
Chris Davies
Mae Chris yn dysgu Cymraeg. Mae Chris yn arbenigwr ym maes Cyfraith Gofal Iechyd ac Eiddo Masnachol yn bennaf, ac mae ganddo brofiad sylweddol o weithredu ar ran deintyddion a fferyllwyr wrth brynu a gwerthu practisau ledled Cymru a Lloegr. Ochr yn ochr â hyn, mae Chris hefyd yn gweithredu ar ran optegwyr, meddygon teulu a chyllidwyr sy’n rhoi benthyg arian ar gyfer prosiectau gofal iechyd.
Mae Chris yn aelod hirsefydlog o NASDAL (Cymdeithas Genedlaethol Cyfrifwyr a Chyfreithwyr Deintyddol) ac yn ei chadeirio. Mae wedi defnyddio ei gysylltiadau, ei arbenigedd a’i brofiad i ddatblygu portffolio mawr o gleientiaid deintyddol, fferyllol a gofal iechyd eraill ledled Cymru a Lloegr. Mae ei dîm yn JCP yn helpu i ddod o hyd i’r datrysiadau cyfreithiol cywir ar gyfer perchnogion a phrynwyr practisau. Mae gan Chris a’r tîm gysylltiadau da gyda chyfrifwyr deintyddol, asiantau a chyllidwyr ac maent yn gweithio gyda nhw i geisio sicrhau’r canlyniad gorau i’r cleientiaid. Mae profiad Chris yn golygu ei fod yn deall y materion sy’n wynebu ymarferwyr gofal iechyd ac mae JCP yn ystyried bod ei wybodaeth gyfreithiol am y sector hwn heb ei hail yng Nghymru.
Mae Chris wedi gweithio mewn amrywiaeth o rolau arwain yn JCP, gan ddefnyddio ei brofiad i ddatblygu timau gyda diddordebau eiddo a gofal iechyd yn llwyddiannus.
Chris yw Llywydd diwethaf Cymdeithas Cyfreithwyr Abertawe ac mae ef wedi cael ei sylw am faterion sy’n ymwneud â gofal iechyd yn rhifyn 2023 y Legal 500.
Yn ei amser hamdden, mae Chris yn hyfforddwr rygbi ac yn golffiwr brwd.