Beth Evans
      • Beth Evans
      • Cynorthwy-ydd Cyfreithiol - Eiddo Preswyl
    • Contact

      • 01348 871 041
      • View vcard
    • Address

        • 01348 871 041

    Beth Evans

    Cynorthwy-ydd Cyfreithiol - Eiddo Preswyl

    Dechreuodd Beth weithio gyda JCP fel Prentis yn ein swyddfa yn Abergwaun ym mis Medi 2016 lle’r oedd hi’n Gynorthwy-ydd Cymorth Busnes, Cynorthwy-ydd Agor Ffeiliau a Derbynnydd. Mae Beth wedi bod yn awyddus i symud ymlaen yn ei swydd yng nghwmni JCP Solicitors o’r cychwyn, ac mae hi wedi gwneud hynny erbyn hyn drwy ddod yn Weinyddwr Cyfreithiol yn ein Tîm Eiddo Preswyl.

    Mae'r swydd hon yn golygu agor ffeiliau i'r tîm mewn paratoad ar gyfer gwaith sydd i'w wneud. Mae hon yn swyddogaeth bwysig ac mae cywirdeb a chyfathrebu yn hanfodol. Mae Beth hefyd yn mwynhau helpu timau ledled JCP gyda’u ffeiliau drwy gynhyrchu dogfennau ac ymdrin â chleientiaid.

    Mae Beth yn rhan o GrÃÂ…µp Cymunedol y Staff ac mae hi wrth ei bodd bod hyn yn rhoi cyfle iddi fod yn llais i'r cydweithwyr yn ei swyddfa yn ogystal â chadw mewn cysylltiad â chydweithwyr o swyddfeydd eraill na fyddai hi'n cael cyfle i siarad â nhw fel arall.

    Ers iddi fod yn gweithio i Gyfreithwyr JCP mae Beth wedi llwyddo i ychwanegu at ei chymwysterau ac erbyn hyn mae ganddi NQV Lefel 3 mewn Gweinyddu Busnes. Mae Beth yn rhugl yn y Gymraeg .

    Y tu allan i'r gwaith mae Beth yn bobydd brwd ac mae hi wrth ei bodd yn gwneud cacennau a danteithion melys i'w theulu, ei ffrindiau a'i chydweithwyr. Mae Beth hefyd wrth ei bodd yn mynd am dro i fwynhau Sir Benfro a'i holl harddwch, ond ar ddiwrnodau gwlyb nid oes dim byd yn well na fideo a chwpanaid o de.

    Wedi llwyddo yn ei Lefelau A Saesneg a TGCh a chael profiad o weithio yn “The Cabinet Office”, penderfynodd ehangu ei chymwysterau gan lwyddo yn ei NVQ lefel 2 mewn Gweinyddu Busnes.