Gemma Weston
      • Gemma Weston
      • Cynorthwy-ydd Cyfreithiol - Y Llys Gwarchod
    • Contact

      • 017925 25425
      • View vcard
    • Address

      • Llys Menter
      • Parc Ger y Llyn
      • Ffordd y Cwm Parc Anturiaeth
      • Abertawe
      • SA6 8QP
      • 01792 773 773
      • 01792 774 775

Gemma Weston

Cynorthwy-ydd Cyfreithiol - Y Llys Gwarchod

Ymunodd Gemma â JCP ym mis Ionawr 2022 fel Cynorthwy-ydd Cyfreithiol yn ein Tîm Y Llys Gwarchod. Mae gan Gemma CertHE yn y Gyfraith gyda Rhagoriaeth ac ar hyn o bryd mae hi'n astudio o bell ar gyfer yr LLB (anrh) llawn yn rhan amser.

Mae Gemma eisoes wedi gweithio fel Uwch Ymarferydd Cymorth, gan gynorthwyo cleientiaid ag anghenion ychwanegol/ anafiadau i'r ymennydd. Roedd Gemma yn arfer asesu atgyfeiriadau gan y gwasanaethau cymdeithasol a'r Awdurdodau Lleol yn Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot ar gyfer sesiynau cymorth yn y gymuned ac yn y cartref. Mae'r profiad hwn o fudd mawr i'w swydd yn JCP, nid yn unig o ran y dyletswyddau gweinyddol ond hefyd o ran y profiad o weithio gyda Thimau Amlddisgyblaethol er mwyn diwallu anghenion y cleientiaid a'u teuluoedd yn y modd gorau. Mae Gemma yn mwynhau'r gofal a'r tosturi sy’n rhan o’r swydd hon.

Mae Gemma wedi ennill cymwysterau Lefel 3 mewn Datblygiad Plant a Seicoleg Plant.

Mae gan Gemma deulu mawr, mae hi'n fam i bedwar ac yn llys-fam i dri, felly mae'n treulio llawer o'i hamser hamdden yn bod yn yrrwr tacsi yn mynd â'r plant i'w gweithgareddau allgyrsiol! Heblaw am hynny, mae Gemma yn hoffi mynd ar deithiau cerdded gyda'i chŵn Billy a Frank ac astudio ar gyfer ei gradd.

Mae Gemma yn siarad Cymraeg.