Uno â VJG Johns yn 2011

Ym mis Hydref 2011, unodd VJG Johns â Chyfreithwyr JCP. Mae gan VJG Johns hanes cyfoethog ac mae’n bwysig i ni na chaiff yr hanes hwn ei golli: er mwyn y staff a drosglwyddodd atom ni, er mwyn staff VJG Johns yn y gorffennol, a’r cleientiaid niferus y mae eu teuluoedd yn rhannu hanes o ymwneud â phractis VJG Johns. Rydym ni’n falch o fod yn rhannu’r un ethos o ran safon y gwasanaeth i gleientiaid a byddwn yn parhau i fodloni gofynion cleientiaid VJG Johns o dan adain Cyfreithwyr JCP.
 
Sefydlwyd VJG Johns ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg gan Vincent James Griffiths Johns. Cymhwysodd ei fab hynaf, Thomas Graham Vincent Johns ym 1938 gan ymuno â’i dad yn y practis.
 
Ymunodd brawd yng nghyfraith Graham, Llewellyn Norman Harvard George, â’r cwmni ym 1947, am gyfnod dros dro i ddechrau, ond arhosodd gyda’r practis hyd at 1991.
 
Arhosodd Graham yn swydd Clerc yr Ynadon ar gyfer gogledd Sir Benfro tan yr wythdegau. Roedd Llewellyn George yn adfocad adnabyddus iawn ledled De Cymru , ac yn un o’r cyfreithwyr cyntaf trwy Gymru a Lloegr i gael ei benodi yn Gofiadur Llys y Goron.
 
Ymunodd Ifor Llewelyn Phillips a VJG Johns fel Clerc dan Erthyglau i Llewellyn George ym 1965. Cymhwysodd ym 1970 a daeth yn Bartner ym 1974. Parhaodd fel Ymgynghorydd i’r Practis yn dilyn yr uno â Chyfreithwyr JCP, tan iddo ymddeol ym mis Medi 2013.
 
Ym 1986, ymunodd Arwel Bowen Charles Davies â’r cwmni gan ddod yn Bartner ym 1989. Ym 1990, mewn cyfnod pan oedd perthynas ramantus â rhywun arall yn yr un swyddfa yn anarferol iawn, gofynnodd Arwel i Geraldine Pierce, a oedd wedi bod gyda’r cwmni ers 1974, ei briodi. Ar ôl dyweddïo yn Llundain, gyrrodd Arwel a Geraldine gartref gan alw yn Abergwaun i ofyn bendith Llewellyn George ei hun.  Priodwyd Arwel a Geraldine ym 1991. Parhawyd â’r bartneriaeth o 1993 ymlaen gan Ifor ac Arwel gyda chymorth Geraldine, hyd yr uno â Chyfreithwyr JCP ar 1 Hydref 2011.
 
Mae Arwel yn parhau i fod yn Gyfarwyddwr yn y practis, ac mae Geraldine yn Uwch Swyddog Paragyfreithiol yn y tîm trawsgludo. Mae’r ddau yn dal yn Abergwaun.