Uno â Pritchard Edwards

Ym mis Hydref 2014, unodd Pritchard Edwards â Chyfreithwyr JCP. Rydym ni’n falch o fod yn rhannu'r un ethos o ran safon y gwasanaeth i gleientiaid a byddwn yn parhau i fodloni anghenion cleientiaid Pritchard Edwards o dan adain Cyfreithwyr JCP.

Sefydlwyd Pritchard Edwards gan Eryl Pritchard a Melanie Edwards ym mis Chwefror 1991.
 
Cyn hynny, roedd Eryl a Melanie yn bartneriaid mewn cwmni lleol arall.
 
Dechreuodd y busnes mewn swyddfa hanesyddol o’r cyfnod Sioraidd yn Stryd y Cei, Caerfyrddin ac mae aelodau gwreiddiol o’r cwmni wedi’u lleoli yno o hyd. Mae’r swyddfa yn Nhŷ Gelli Aur yn dyddio’n ôl i’r ddeunawfed ganrif ac yn rhan bwysig o hanes lleol.
 
Mae Tŷ Gelli Aur yn adeilad rhestredig Gradd II, a chredir mai Tŷ Tollau ydoedd yn wreiddiol, ac yna yn dŷ preswyl preifat cyn dod yn Glwb i Swyddogion y Fyddin ar ddiwedd y Rhyfel Mawr. Yn ystod yr ugeinfed ganrif daeth yn Bencadlys y Lleng Brydeinig ar gyfer Caerfyrddin. Ym 1987 cafodd yr adeilad ei adnewyddu’n llwyr a’i newid i swyddfeydd, gan ennill gwobr oddi wrth Gymdeithas Ddinesig Caerfyrddin.
 
Parhaodd Melanie ac Eryl i weithio fel Ymgynghorwyr gyda Chyfreithwyr JCP hyd at 2016.