Uno â Peter Cross

Ym mis Hydref 2013 unodd Peter Cross â Chyfreithwyr JCP. Rydym ni’n falch o fod yn rhannu'r un ethos o ran safon y gwasanaeth i’n cleientiaid a byddwn yn parhau i fodloni anghenion cleientiaid Peter Cross o dan adain Cyfreithwyr JCP.

Ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, sefydlodd Walter Levi Williams, partner a oedd yn dal yn fyw o gwmni Vaughan Williams and Co, bractis cyfreithiol yn Abergwaun o’r enw Walter L Williams a’i Feibion.
 
Parhaodd Walter L Williams a’i Feibion i fodoli am oddeutu 120 mlynedd gan newid enw sawl gwaith tan i’r cysylltiad â Walter Williams ddod i ben yn derfynol ar 30 Tachwedd 2012 pryd y diddymwyd y Bartneriaeth a oedd yn gweithredu o dan yr enw hwnnw bryd hynny.
 
Mae Peter Cross wedi bod yn gyfreithiwr yn Sir Benfro ers dros ddeugain mlynedd,  yn Hwlffordd i ddechrau fel Partner yn Eaton-Evans & Morris, ac o 1980 ymlaen, yn Abergwaun - mewn partneriaeth o dan yr enw Walter Williams ac yna yn ei enw ei hun, ac fe barhaodd mewn practis yn Sycamore Lodge fel olynydd ysbrydol i’r hen gwmni.
 
Ar 1 Hydref 2013 fe unodd Peter Cross, cyfreithiwr hirsefydlog a Notari Cyhoeddus, â Chyfreithwyr JCP, ac mae’n parhau i fod yn y swyddfeydd yn Sycamore Lodge yn Abergwaun, gan weithredu fel Ymgynghorydd.