Uno â Bissmire Fudge

Ym mis Hydref 2012, unodd Bissmire Fudge â Chyfreithwyr JCP. Rydym yn falch o fod yn rhannu’r un ethos o ran safon y gwasanaeth i’n cleientiaid a byddwn yn parhau i fodloni anghenion cleientiaid Bissmire Fudge o dan adain Cyfreithwyr JCP.

Lleolwyd y cwmni yn Stryd y Farchnad yn nhref sirol Hwlffordd ac roedd Bissmire Fudge, a adnabuwyd fel Bissmire Fudge and Co. yn olynydd i gwmni Tom Lewis & Co.

 
Sefydlwyd Tom Lewis & Co yn wreiddiol gan Mr Lewis ar ddiwedd y saithdegau ac yn fuan wedyn, ym 1980, ymunodd Michael Bissmire ag ef. Pan ymddeolodd Mr Lewis ym 1983 daeth Ian Fudge yn bartner i Michael Bissmire gan ffurfio Bissmire Fudge & Co.
 
Yn yr wythdegau a’r nawdegau tyfodd y cwmni i fod yn gwmni pedwar partner gyda Gwyn Scale a Peter Radford yn ymuno â’r bartneriaeth. Ar yr adeg honno roedd gan Bissmire Fudge ddwy swyddfa yn Sir Benfro - Hwlffordd a Doc Penfro. Yn 2002, yn dilyn ehangu’r adran Anaf Personol, agorwyd swyddfa arall yn Stryd y Farchnad er mwyn darparu lle i’r aelodau newydd o staff.
 
Ym mis Mawrth 2012 ymddeolodd Michael Bissmire o’r cwmni ac ar 1 Hydref 2012, unodd Cyfreithwyr JCP â Bissmire Fudge. Mae Ian Fudge a Peter Radford yn dal i fod yn Gyfarwyddwyr yn y practis.