Gwasanaethau Profiant

Pan fo rhywun agos i chi yn marw, mae’n rhaid i rywun ymdrin â’r ystâd. Fel rheol mae ystâd unigolyn yn cynnwys arian, buddsoddiadau, eiddo (adeilad/au) ac unrhyw eiddo personol a oedd ganddo ar adeg ei farwolaeth. Profiant yw’r enw cyffredin a roddir ar y broses o ymdrin ag ystâd unigolyn, ac mae’n cynnwys casglu unrhyw asedau o eiddo’r ymadawedig, talu unrhyw ddyledion (gan gynnwys trethi heb eu talu) a rhannu’r ystâd rhwng y buddiolwyr priodol.

Bydd y rhan fwyaf o’r asedau (gan gynnwys eiddo) yn parhau wedi’u cloi tan y bydd y Gofrestrfa Brofiant yn rhoi awdurdod (drwy ddogfen a elwir yn Grant Cynrychiolaeth) i’r “ysgutor” a enwir yn Ewyllys yr ymadawedig. Os nad oes Ewyllys, bydd rhai rheolau, a elwir yn rheolau Diewyllysedd, yn berthnasol a byddant yn nodi pwy sydd â hawl i wneud cais am y Grant Cynrychiolaeth ac i gael budd o’r ystâd. “Cynrychiolwyr Personol” yw’r enw a roddir i’r rhai hynny sydd â hawl ar y cyd i weinyddu’r ystâd pa un a yw’r ymadawedig wedi gadael Ewyllys ai peidio.

Gallwn roi arweiniad ymarferol i helpu’r Cynrychiolwyr Personol i fynd drwy’r holl broses o weinyddu ystâd.

Gallwn eich helpu i bennu maint ystâd at ddibenion Profiant a Threth Etifeddiaeth.

Gallwn lenwi’r ffurflenni etifeddiaeth angenrheidiol yn ogystal â pharatoi’r cais am Grant Cynrychiolaeth ar eich rhan, a’ch helpu i roi’r ffurflenni angenrheidiol i’r sefydliadau perthnasol er mwyn casglu neu werthu asedau’r ystâd a thalu unrhyw ddyledion, cyn cwblhau’r ystâd a’i dosbarthu i’r buddiolwyr.

Gallwn drefnu trosglwyddiad neu werthiant unrhyw gyfranddaliadau, a gweithio gyda’n tîm eiddo preswyl i ymdrin â throsglwyddo neu werthu unrhyw eiddo neu dir yr oedd yr ymadawedig yn berchen arno.