Amserlenni a Chamau Allweddol

Mae trawsgludo eiddo yn rhan hanfodol o'r broses prynu a gwerthu, sy'n cynnwys trosglwyddo perchenogaeth cartref yn gyfreithiol oddi wrth y gwerthwr i’r prynwr. Bydd eich cyfreithiwr yn gwneud y gwaith trawsgludo ar eich rhan, a bydd yn hapus i drafod yn fanylach gyda chi, ond dyma ganllaw syml i’ch arwain drwy'r hyn sy'n digwydd a phryd.

Wrth chwilio am dŷ neu wrth werthu tŷ, mae’n bwysig gwneud rhywfaint o waith ymchwil i’r cwmni trawsgludo yr ydych chi’n dymuno ei ddefnyddio, i sicrhau pan fydd pethau’n barod i symud ymlaen, bod y broses, sy’n gallu symud yn gyflym yn aml yn ystod y camau cyntaf, mor syml â phosibl. I gael cymorth i ddod o hyd i’r cwmni cywir, gallwch edrych ar ein cofnod blog awgrymiadau da yma.

Ar ôl i gynnig gael ei dderbyn

Ar yr adeg hon, dylech gyfarwyddo eich cyfreithiwr ar unwaith.

Mae nifer o faterion y mae angen rhoi sylw iddyn nhw cyn y gellir mynd ymlaen i gyfnewid contractau. Mae pedwar peth allweddol y mae angen eu gwneud:

  • Bydd cyfreithwyr y gwerthwr yn cael gweithredoedd yr eiddo ac yn paratoi contract drafft y byddant yn ei anfon at gyfreithiwr y prynwr ar gyfer cymeradwyaeth. Bydd y gwerthwr yn cwblhau ffurflenni Gwybodaeth Eiddo safonol gan nodi pethau fel gosodiadau a ffitiadau a gwybodaeth am brydles
  • Cynhelir sawl chwiliad ar yr eiddo, gan gynnwys chwiliadau lleol, amgylcheddol, dŵr a draenio. Diben y broses hon yw datgelu unrhyw wybodaeth a allai gael effaith andwyol ar yr eiddo
  • Bydd cyfreithiwr y prynwr yn anfon unrhyw Ymholiadau Cyn y Contract sydd ganddynt i gyfreithwyr y gwerthwr ar ôl iddyn nhw edrych ar becyn y gweithredoedd. Diben y rhain yw datgelu mwy o fanylion am unrhyw broblemau posibl yn ymwneud â’r eiddo ynghylch, er enghraifft, materion hawliau tramwy anarferol, neu pa un a yw’r gwerthwr wedi gwneud unrhyw newidiadau strwythurol
  • Mae angen i’r prynwr fod â chytundeb morgais wedi’i drefnu, gyda chynnig morgais ysgrifenedig gan fenthyciwr cyn iddo ymrwymo i’r pryniad

Pan fydd yr uchod wedi ei wneud, bydd y prynwr yn cael adroddiad ysgrifenedig gan ei gyfreithiwr a fydd yn esbonio’n fanwl y contract, canlyniadau’r chwiliadau a’r cynnig morgais.

Yn ystod y rhan hon o'r broses, bydd cyfreithiwr y prynwr yn tynnu ei sylw at unrhyw broblemau cyn cyfnewid contractau. Fel arfer, bydd cyfreithiwr y prynwr hefyd yn anfon gweithredoedd y morgais at y prynwr i’w llofnodi ar yr adeg hon.

Cyfnewid Contractau

Caiff y contractau eu llofnodi gan y gwahanol bartïon wrth baratoi ar gyfer cyfnewid contractau. Ar yr adeg hon, caiff blaendal, 10% o’r pris prynu fel arfer, ei dalu i gyfreithiwr y prynwr.  

Bydd y contract yn rhwymo yn y gyfraith o ran y ddau barti pan fydd y contractau wedi eu cyfnewid. Caiff y dyddiad cwblhau ei bennu ar yr adeg hon. Os yw’r naill barti’n gwrthod symud ymlaen gyda’r trafodiad neu’n oedi ac yn methu â chwblhau erbyn y dyddiad cwblhau a bennwyd, yna bydd yn agored i dalu iawndal i'r parti arall.

Ar ôl i’r cyfnewid ddigwydd, bydd cyfreithiwr y prynwr yn gwneud cais i'r benthyciwr morgais am i’r arian gael ei ryddhau mewn pryd ar gyfer y dyddiad cwblhau. Bydd hefyd yn cynnal chwiliadau eraill i sicrhau nad yw’r gwerthwr wedi ymrwymo i unrhyw gontract arall nac wedi cael morgais arall ar yr eiddo.  Bydd y cyfreithiwr yn gofyn i'r prynwr dalu ei ddyled cyn cwblhau.

Cwblhau

Ar y dyddiad cwblhau, bydd cyfreithiwr y prynwr yn sicrhau bod gweddill dyledus y  pris prynu wedi ei dalu i gyfreithiwr y gwerthwr cyn gynted â phosibl, fel y gellir rhyddhau’r allweddi - yn gynnar yn y prynhawn fel arfer.

Ar ôl Cwblhau

Bydd peth gwaith terfynol i gyfreithiwr y prynwr ei wneud, gan gynnwys talu Treth Dir y Dreth Stamp (Treth Trafodiadau Tir yng Nghymru), a threfnu i gofrestru’r gweithredoedd gyda Chofrestrfa Tir ei Mawrhydi.  Efallai hefyd y bydd yn angenrheidiol rhoi rhybuddion i landlord neu’r banc neu gymdeithas adeiladu, i'w cynghori ynghylch y cwblhau. 

Bydd y cyfreithiwr yn anfon copi o'r gweithredoedd cofrestredig i’r prynwr a’i fenthyciwr morgais. Bydd hefyd yn hysbysu'r rhydd-ddeiliad, os yw’r eiddo ar brydles.

Amserlenni

Mae trafodiad syml heb gymhlethdodau, fel arfer, yn cymryd rhwng 10-12 wythnos. Fodd bynnag, rydym yn cynghori ein cleientiaid y gall cymhlethdodau godi a fydd y tu hwnt i’n rheolaeth ni a’ch rheolaeth chithau. Gallai hyn gynnwys cymhlethdodau fel:-

  • Pan fo cadwyn hir ac mae cwblhau drosoch chi yn dibynnu ar linell hir o drafodiadau syml a phawb â’r un amserlenni mewn golwg
  • Os oes eiddo profiant yn eich cadwyn
  • Os oes problem gyda chwiliadau neu gofrestru tir yn swyddogol
  • Problemau yn ymwneud â chaniatâd cynllunio
  • Gwybodaeth anghywir ar geisiadau morgais, o’ch rhan chi neu unrhyw un yn eich cadwyn
  • Cymhlethdodau gyda chwiliadau

Byddwn bob amser yn gwneud ein gorau i gadw eich trafodiad ar y trywydd iawn a byddwn yn cyfathrebu gyda chi bob amser wrth symud ymlaen os byddwn yn gallu rhagweld y bydd oedi yn bosibl. Fel arfer, bydd hyn yn gwbl y tu hwnt i’n rheolaeth ni a’ch rheolaeth chithau. Gall hwn fod yn gyfnod anodd a phryderus o’ch bywyd ac mae’n bosibl mai dyma fydd y pryniad mwyaf y byddwch yn ei wneud byth, a’n cyngor gorau ni yw bod yn realistig a chaniatáu rhyddid a hyblygrwydd i chi eich hunan o ran eich dyddiad symud. Gallwch fod yn dawel eich meddwl y byddwn yn gwneud ein gorau drosoch chi bob amser.