Tai Gweithwyr Amaethyddol yng Nghymru

Mae Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 wedi dileu statws arbennig i weithwyr amaethyddol yng Nghymru a nawr bydd eu tenantiaethau yr un fath ag unrhyw feddiannydd arall.

O dan y ddeddfwriaeth newydd, bydd contractau meddiannaeth yn disodli tenantiaethau a thrwyddedau presennol. Mae hyn yn berthnasol ar gyfer Tenantiaethau Byrddaliadol Sicr a Meddianaethau Amaethyddol Sicr. Nid yw hyn yn berthnasol i weithwyr amaethyddol a ddechreuodd feddiannu cyn 15 Ionawr 1989.

Sut ydw i'n trosi fy nghytundeb tenantiaeth bresennol yn gontract meddiannaeth?

Er mwyn gwneud hyn, bydd yn ofynnol i chi gyflwyno 'datganiad ysgrifenedig' o'r contract meddiannaeth i'r holl ddeiliaid contract (tenantiaid a thrwyddedeion gynt). Rhaid i'r datganiad ysgrifenedig hwn gynnwys holl delerau'r contract. Bydd hwn yn disodli eich cytundeb tenantiaeth neu gytundeb trwydded bresennol.

Contractau Rhent Presennol ar ôl 1 Rhagfyr 2022

Bydd gan landlordiaid sydd â chytundebau tenantiaeth gyfnod o chwe mis i gyflwyno datganiad ysgrifenedig o'r contract meddiannaeth sydd wedi'i drosi i’w deiliaid contract. Newidiodd pob cytundeb tenantiaeth bresennol i gontract meddiannaeth ar ddyddiad gweithredu'r ddeddfwriaeth newydd.

Atgyweiriadau a chyflwr gorfodol yr eiddo rhent

Mae'r ddeddfwriaeth yn nodi'r rhwymedigaethau a osodir ar y landlord o ran cyflwr annedd. Mae'r rhwymedigaethau hyn yn berthnasol i bob contract meddiannaeth a wneir am gyfnod o lai na saith mlynedd. Mae'n ofynnol i'r landlord o dan gontract meddiannaeth sicrhau bod eiddo mewn cyflwr da ac yn addas i bobl fyw ynddo.

Sut ydw i'n terfynu contract meddiannaeth ar gyfer gweithiwr amaethyddol?

Mae hyn yn dibynnu a oedd y denantiaeth flaenorol yn denantiaeth sicr, yn denantiaeth fyrddaliadol sicr neu yn feddiannaeth amaethyddol sicr. Mae gwahanol ddeddfwriaeth a chyfnodau rhybudd yn berthnasol yn dibynnu ar y math o denantiaeth.

Mae'r ddeddfwriaeth newydd yn newid sylweddol o'r ddeddfwriaeth flaenorol sy'n cynnig llai o sicrwydd deiliadaeth. Dylai cyflogwyr gymryd sylw o'r ddeddfwriaeth newydd os ydynt yn cynnig llety i weithwyr amaethyddol i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â rhwymedigaethau statudol newydd.

Eithriadau rhag trosi o dan y ddeddfwriaeth newydd

  • Tenantiaeth o ddaliad amaethyddol o fewn ystyr Deddf Daliadau Amaethyddol 1986
  • Tenantiaeth busnes fferm o fewn ystyr Deddf Tenantiaethau Amaethyddol 1995
  • Tenantiaeth cyfnod penodol dros 21 mlynedd
  • Tenantiaeth y mae Rhan 2 o Ddeddf Landlord a Thenant 1954 (tenantiaethau busnes) yn gymwys iddi
  • Meddiannaeth warchodedig neu denantiaeth statudol o fewn ystyr y Rhent
  • Tenantiaeth warchodedig neu denantiaeth statudol o fewn ystyr Deddf Rhenti 1977

Rwy’n ansicr sut i fwrw ymlaen - ble gallaf ddod o hyd i gymorth?

Mae rhagor o ganllawiau ar wefan llyw.uk.

Mae ein tîm o arbenigwyr ymgyfreitha gwledig wrth law i helpu. Am unrhyw ymholiadau, cysylltwch â'n Tîm Gwledig ar 03333 208644 neu e-bostiwch law@jcpsolicitors.co.uk

Sylwch nad bwriad yr erthygl hon yw bod yn gyngor cyfreithiol ac mae at ddibenion gwybodaeth yn unig. Dylech geisio cyngor gan gyfreithiwr cyn gweithredu.

 

  • Matthew Owen
      • 01792 529 683
      • View profile
  • Arwel Davies
      • 01348 871 013
      • View profile
  • Meinir Davies
      • 01792 529 666
      • View profile
  • Betsan Powell
      • 01792 529 644
      • View profile
  • Elinor Laidlaw
      • 01792 529 698
      • View profile
  • Ian Rees
      • Ian Rees
      • Cyfarwyddwr a Phennaeth Anaf Personol
      • 01792 529 641
      • View profile
  • Georgia Davies
      • 01792 773 773
      • View profile
  • Naomi Headley
      • 01792 5529 667
      • View profile
  • Rhian Jervis
      • 01792 525 422
      • View profile
  • Rhian Jones
      • 01437 771 160
      • View profile
  • Sharon Jones
      • 01267 248 890
      • View profile
  • Angela Killa
      • 01267 248893
      • View profile
  • Delyth Morris
      • 01267 266 941
      • View profile
  • Rachel Morris
      • 01267 248886
      • View profile
  • Eleri Roebuck
      • 01267 248 984
      • View profile
  • Malcolm Thomas MBE
      • 07837 109 599
      • View profile