- Abertawe 01792 773 773
- Caerdydd 029 2022 5472
- Caerfyrddin 01267 234 022
- Abergwaun 1348 873 671
- Hwlffordd 01437 764 723
- Practis Gwledig 01267 266 944
- Tyddewi 01348 873 671
- Nodwch fod pob galwad ffôn yn cael ei recordio
Rhian Jones
Mae Rhian yn rhan o'n tîm Eiddo Masnachol sydd wedi’i leoli yn ein swyddfa yn Hwlffordd, ac mae’n gweithio ochr yn ochr â Chyfarwyddwr a Phennaeth Eiddo Masnachol gorllewin Cymru sef Georgina Walters. Mae Rhian yn cynorthwyo aelodau eraill o'r tîm Eiddo Masnachol ac mae hefyd yn rheoli ei llwyth achosion ei hun, gan ymdrin yn bennaf â lesoedd busnes, gwerthu a phrynu eiddo masnachol/tir.
Ar ôl ennill gradd 2:1 yn y Gyfraith (LLB) o Brifysgol Reading a chwblhau ei chwrs ymarfer y gyfraith (LPC) gydag MSc yn y Gyfraith, Busnes a Rheoli (Cymeradwyaeth) ym Mhrifysgol y Gyfraith, Guildford, dechreuodd Rhian ei Chontract Hyfforddi gyda chwmni cyfreithiol arall yn eu hadrannau Anafiadau Personol ac Eiddo Masnachol cyn cymryd seibiant o'r gyfraith i ganolbwyntio ar ei dau blentyn ifanc.
Ar ôl dychwelyd i Sir Benfro yn ddiweddar, mae Rhian yn falch o weithio unwaith eto mewn maes y mae'n angerddol amdano, gan gefnogi cleientiaid Eiddo Masnachol a'i thîm ehangach o fewn JCP.
Cafodd Rhian ei magu yng Nghymru, gan fynychu ysgol gynradd ac uwchradd Gymraeg yn Aberystwyth ac mae’n siarad Cymraeg ar lefel sylfaenol, er ei bod yn deall yr iaith yn dda.
Ar hyn o bryd mae Rhian yn adnewyddu tÅ· sy'n cymryd y rhan fwyaf o'i hamser hamdden, ond pan nad yw hi'n gweithio ar ei chartref newydd, nac yn gofalu am ei dau fachgen ifanc, mae'n mwynhau syrffio, padlfyrddio a sgwba-ddeifio. Mae ganddi hefyd fusnes bach sy'n dylunio a gwerthu cardiau cyfarch wedi'u gwneud â llaw a gychwynnodd yn ystod ei chyfnod mamolaeth yn 2020.