- Abertawe 01792 773 773
- Caerdydd 029 2022 5472
- Caerfyrddin 01267 234 022
- Abergwaun 1348 873 671
- Hwlffordd 01437 764 723
- Practis Gwledig 01267 266 944
- Tyddewi 01348 873 671
- Nodwch fod pob galwad ffôn yn cael ei recordio
Ian Rees
Cyfreithiwr Cyswllt - Anaf Personol
Mae Ian wedi gweithio yn y maes arbenigol yma o’r gyfraith am bron 20 mlynedd ers cymhwyso ym 1998. Dealla Ian bod yr anafiadau a’r colledion a achosir gan ddamwain yn gallu bod yn amser ysgytiol , ac fe wnaiff popeth o fewn ei allu i leihau’r pwysau a’r gofid i’r cleient ac i deulu’r cleient.
Mae Ian yn rhugl yn y Gymraeg ac yn hapus i ddelio gyda chleientiaid yn y Gymraeg neu’r Saesneg.
Mae Ian yn Llywodraethwr yn yr ysgol gynradd leol ac yn diddori’n fawr mewn pob chwaraeon, yn enwedig rygbi, golff a chriced. Mae’n gefnogwr brwd o’r Elyrch, gan fynychu gemau gyda’i fab. Mae hefyd yn hyfforddi tîm pêl droed dan 12.
Mae Ian yn ymdrin â hawliadau Anaf Personol cymhleth, gan gynnwys damweiniau ar y ffyrdd, damweiniau seiclo, damweiniau yn y gweithle a damweiniau yn y cartref. Mae Ian yn canolbwyntio ar gael canlyniadau da dros unigolion sydd wedi eu hanafu, rhai sydd ag anafiadau sy’n newid bywyd, heb fod bai arnynt hwy eu hunain.