Eleri Roebuck
      • Eleri Roebuck
      • Uwch Gyfreithiwr Cyswllt - Eiddo Masnachol
    • Contact

      • 01267 248 984
      • View vcard
    • Department

    • Address

        • 01267 248 984

    Eleri Roebuck

    Uwch Gyfreithiwr Cyswllt - Eiddo Masnachol

    Astudiodd Eleri radd mewn Cyfraith gyda Busnes a Rheolaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth gan raddio gyda 2:1. Aeth ymlaen i gwblhau Cwrs Ymarfer y Gyfraith ym Mhrifysgol Abertawe gyda rhagoriaeth. Cyn gweithio gyda Chyfreithwyr JCP, ymgymerodd Eleri mewn sawl lleoliad profiad gwaith mewn ystod o sectorau.

    Cychwynnodd Eleri ei gyrfa gyda Chyfreithwyr JCP ym mis Medi 2012 gan ymuno gyda’r adran trawsgludo preswyl prysur fel Paragyfreithwraig. Caeth ddyrchafiad i fod yn Uwch Baragyfreithwraig yng Ngorffennaf 2013 a daeth yn bwynt cyswllt i’r tîm am unrhyw ymholiadau cyfreithiol ac yn gyfrifol am y cysylltiad gyda chleientiaid masnachol. 

    Aeth Eleri ymlaen i wneud ei chontract hyfforddi gyda JCP gan gymhwyso fel cyfreithiwr ar y 1af o Fedi 2017, gan dderbyn swydd barhaol gyda’r Tîm Eiddo Masnachol.
     
    Y tu allan i’r gwaith mae Eleri yn mwynhau cymdeithasu gyda ffrindiau a theulu, chwarae badminton a theithio.
     
    Mae Eleri yn rhugl yn y Gymraeg.