- Abertawe 01792 773 773
- Caerdydd 029 2022 5472
- Caerfyrddin 01267 234 022
- Abergwaun 1348 873 671
- Hwlffordd 01437 764 723
- Practis Gwledig 01267 266 944
- Tyddewi 01348 873 671
- Nodwch fod pob galwad ffôn yn cael ei recordio
Malcolm Thomas MBE
Caeth Malcolm ei anrhydeddu yn ddiweddar gydag MBE fel cydnabyddiaeth o’i wasanaeth i ddiwydiant amaethyddol Cymru, ac hefyd fe’i wnaed yn Aelod Cyswllt o Gymdeithasau Amaethyddol Brenhinol yn 2015.
Bu Malcolm gynt yn Gyfarwyddwr Gwasanaethau Busnes, Aelodaeth a Rhanbarthau’r NFU yng Nghymru a Lloegr; yn Bennaeth Polisi ac Adnoddau/Dirprwy Gyfarwyddwr NFU Cymru; a Phennaeth Cyfadran Amaethyddol a Pholisi Nwyddau Ewropeaidd yn y Swyddfa Gymreig.
Mae Malcolm hefyd yn Aelod am Oes o’r Clwb Ffermwyr Ifanc, ac wedi cynrychioli’r NFU ar sawl Pwyllgor Dethol yn y Tŷ Cyffredin a Thŷ’r Arglwyddi.
Rôl Malcolm yn bennaf yw rheoli a datblygu ein sylfaen o gleientiaid gwledig, gan gynnwys bod yn gyswllt gyda’r NFU a Chynllun Cymorth Cyfreithiol yr NFU, gan mai JCP yw cwmni panel y cynllun dros Dde Cymru.
Wedi gweithio yn y sector dros sawl blwyddyn, mae gan Malcolm wybodaeth bersonol o’r heriau mae’r sector yn ei wynebu.
Mae Malcolm hefyd yn Ddirprwy Gadeirydd RABI (Royal Agricultural Benevolent Institution).