Cariad pur sydd fel y dur, yn para tra bo dau ond gadewch i ni f

Wrth i ni ddathlu Dydd Santes Dwynwen, Dydd Sant Ffolant, neu'r ddau, bydd llawer ohonom yn edrych ymlaen at ddathlu gyda'r rhai yr ydym yn eu caru gyda'r siocledi a'r blodau traddodiadol. Fodd bynnag, er ei fod yn swnio’n anrhamantus, unwaith y byddwch wedi eich taro gan saeth Ciwpid, mae'n bwysig siarad am gael trefn ar bethau, fel nad oes rhaid i chi boeni am agweddau ymarferol eich perthynas. 

Dyma ein rhestr wirio ar gyfer cariadon o faterion cyfreithiol y byddai’n syniad da rhoi trefn arnynt:

Gwneud Ewyllys - Dylai pawb wneud Ewyllys, hyd yn oed cyplau iau yn enwedig pan fo plant. Mae Ewyllys yn ei gwneud yn llawer mwy tebygol y bydd eich dymuniadau'n cael eu parchu pe bai'r gwaethaf yn digwydd, ac mae Ewyllys a baratowyd yn iawn yn arbed llawer o straen i anwyliaid sy'n cael eu gadael ar ôl. Mae'n gyffredin iawn erbyn hyn i bobl fod yn rhan o deuluoedd cymysg eithaf cymhleth, gydag eiddo, busnes a/neu bensiynau i'w hystyried. Felly hyd yn oed os nad ydych chi'n credu bod gennych chi asedau helaeth, efallai bod gennych chi ystâd eithaf sylweddol i'w chymynroddi. Rydym yn argymell i'n cleientiaid eu bod yn adolygu eu hewyllys bob tair blynedd, er mwyn ei chadw'n berthnasol, a dylai unrhyw newidiadau mawr yn eich amgylchiadau, fel perthynas newydd, eich annog i wneud hyn hefyd.

Atwrneiaeth Arhosol – Mae hon yn ddogfen gyfreithiol arall sy’n gallu rhoi tawelwch meddwl sylweddol ac mae'n synhwyrol iawn trefnu un tra byddwch chi'n iach. Mae dogfen Atwrneiaeth Arhosol yn caniatáu i chi benodi atwrnai i weithredu ar eich rhan os na allwch ymdrin â'ch eiddo a'ch materion ariannol eich hun mwyach. Er enghraifft, gallai'r ddogfen hon eich galluogi i gael mynediad cyfreithiol at gyfrifon banc eich gilydd mewn argyfwng. Nid oes cyfyngiad ar nifer yr Atwrneiod y cewch eu penodi, a gallwch nodi a oes rhaid i'r Atwrneiod weithredu gyda'i gilydd neu'n annibynnol. Dim ond tra bod gennych y gallu meddyliol i wneud hynny y gallwch drefnu Atwrneiaeth Arhosol.

Cytundeb Cyn Priodi – Roedd pobl yn arfer meddwl bod cytundeb cyn priodi yn hynod o anrhamantus. Ond, mewn gwirionedd, gall cytundeb cyn priodi greu ymdeimlad ychwanegol o ddiogelwch a sefydlogrwydd i bob parti. Gallant fod yn arbennig o ddefnyddiol ar gyfer ail briodas. Yn syml, cytundeb rhwng yr oedolion mewn priodas arfaethedig yw cytundeb cyn priodi sy'n ceisio rheoleiddio eu materion ariannol yn eglur pe bai perthynas yn chwalu. Cyn belled â bod y cytundeb yn deg i'r ddau barti gellir ei ddefnyddio i helpu i glustnodi rhai asedau rhag iddynt gael eu llusgo i mewn i achos ysgariad fel asedau priodasol. Os ydych chi'n bwriadu priodi, gallai cytundeb cyn priodi eich helpu i gael trefn ar faterion ariannol o flaen llaw er mwyn ichi gael canolbwyntio ar eich diwrnod mawr.

Cytundebau byw gyda'ch gilydd - Yn aml, mae gan gyplau sy'n byw gyda'i gilydd bryderon dilys am yr hyn a fyddai'n digwydd iddynt yn gyfreithiol ac yn ariannol pe byddent yn gwahanu. Gall Cytundeb Cyd-fyw eich helpu i gael trefn ar rai pwyntiau allweddol fel y gallwch roi rhywfaint o'r pryder hwn y tu ôl i chi. Mae Cytundebau Cyd-fyw yn boblogaidd ymhlith y rhai sy'n ymrwymo i berthnasoedd lle mae gan y ddau barti asedau eisoes, fel tŷ neu gynilion, a phan fyddwch yn ceisio gwarchod buddion plant. Rhaid dod i'r cytundeb ar ôl i'r ddau barti dderbyn cyngor cyfreithiol annibynnol a rhaid i'r ddau ohonoch gytuno ar fanylion y ddogfen.

Prynu tŷ gyda'ch gilydd - Prynu tŷ yw un o'r prif bryniannau y byddwch chi'n ei wneud mewn oes. Mae'n bwysig, os ydych chi'n gwneud y buddsoddiad hwn gyda phartner, ac yn enwedig os gall un ohonoch gyfrannu mwy o arian ar y dechrau, eich bod chi'n sicrhau y cytundeb cyfreithiol cywir ynglŷn â pherchnogaeth. Er enghraifft, efallai y byddwch yn ystyried prynu'r tŷ fel Tenantiaid ar y Cyd neu ymrwymo i Weithred Ymddiriedolaeth, fel bod gan bob perchennog ei gyfran benodol o'r eiddo.


I gael cyngor wedi'i deilwra ar unrhyw un o'r pynciau hyn, cysylltwch ag Angela Killa, Cyfarwyddwr yn Nhîm Cyfraith Teulu Cwmni Cyfreithwyr JCP ar 03333 208 644 neu anfonwch neges e-bost at law@jcpsolicitors.co.uk