Cyfreithwyr Cytundebau Cyn Priodi a Chytundebau Cyd-fyw

Pan eich bod yn cychwyn ar eich bywyd gyda’ch gilydd fel pâr, nid yw cynllunio rhag ofn i bethau fynd o chwith ar ôl eich seremoni briodas neu bartneriaeth sifil yn ymddangos fel y ffordd fwyaf rhamantus o gychwyn ar eich taith. Gall cofnodi eich bwriadau ar y cychwyn hybu perthynas hapusach ac arbed llawer o straen a gofid os aiff pethau o chwith.
 
Cytundebau Cyn Priodi
 
Mae gennym brofiad mewn paratoi Cytundebau Cyn Priodi a Chytundebau Rhag-gofrestru y gallai’r Llys roi ystyriaeth iddynt pe byddai perthynas yn chwalu. Gallwn gynnig cyngor cynhwysfawr ar y ffordd orau o ddiogelu eich sefyllfa a gallwn gyfeirio eich partner i’r cyfeiriad iawn i gael cyngor cyfreithiol annibynnol.
 
Cyd-fyw
 
Caiff y term ‘priod o dan y gyfraith gyffredin’ ei ddefnyddio’n helaeth i ddisgrifio’r rhai sy’n cyd-fyw, ac mae wedi arwain at y camargraff fod gan bobl sy’n byw gyda’i gilydd hawliau tebyg i’r rhai hynny sydd wedi priodi. Mae llawer o bobl yn mynd at eu cyfreithiwr i gael cyngor am eu hawliau fel ‘priod o dan y gyfraith gyffredin’, heb sylweddoli nad yw eu sefyllfa wedi ei diogelu gan y gyfraith. Efallai y byddwch yn dymuno ystyried trefnu cytundeb cyd-fyw gyda’ch partner er mwyn nodi eich bwriad o’r cychwyn cyntaf.
 
Gallwn ni eich cynghori a pharatoi cytundeb a allai osgoi'r angen am achos llys pe byddai’r berthynas yn chwalu.

 

 

  • Matthew Owen
      • 01792 529 683
      • View profile
  • Arwel Davies
      • 01348 871 013
      • View profile
  • Meinir Davies
      • 01792 529 666
      • View profile
  • Betsan Powell
      • 01792 529 644
      • View profile
  • Elinor Laidlaw
      • 01792 529 698
      • View profile
  • Ian Rees
      • Ian Rees
      • Cyfarwyddwr a Phennaeth Anaf Personol
      • 01792 529 641
      • View profile
  • Georgia Davies
      • 01792 773 773
      • View profile
  • Naomi Headley
      • 01792 5529 667
      • View profile
  • Rhian Jervis
      • 01792 525 422
      • View profile
  • Rhian Jones
      • 01437 771 160
      • View profile
  • Sharon Jones
      • 01267 248 890
      • View profile
  • Angela Killa
      • 01267 248893
      • View profile
  • Delyth Morris
      • 01267 266 941
      • View profile
  • Rachel Morris
      • 01267 248886
      • View profile
  • Eleri Roebuck
      • 01267 248 984
      • View profile
  • Malcolm Thomas MBE
      • 07837 109 599
      • View profile