- Abertawe 01792 773 773
- Caerdydd 029 2022 5472
- Caerfyrddin 01267 234 022
- Abergwaun 1348 873 671
- Hwlffordd 01437 764 723
- Practis Gwledig 01267 266 944
- Tyddewi 01348 873 671
- Nodwch fod pob galwad ffôn yn cael ei recordio
Rebecca Seldon
Mae Rebecca yn Gyfreithiwr Cyswllt yn ein Tîm Cynlluniau Oes ac yn gweithio o’n swyddfa yn Y Bont-faen. Gwna amrywiaeth o waith ar faterion Cynlluniau Oes gan gynnwys; paratoi Ewyllysiau, Profiant a Gweinyddu Ystadau, a cheisiadau Llys Gwarchod ac Atwrneiaeth Arhosol.
Darpara Rebecca gyngor clir ac ymarferol i’w chleientiaid. Mae wedi datblygu agwedd rhagweithiol a gweithia gyda’i chleientiaid gan ddarparu gwasanaeth personol sydd wedi ei deilwra.
Yn raddedig o Goleg Cyfraith Prifysgol Caerdydd, bu Rebecca yn aelod o dîm ymgyfreitha prysur mewn cwmni mawr o Gymru cyn ymuno â JCP yn 2014, lle y cymhwysodd fel cyfreithiwr yn ddiweddarach. Mae Rebecca wedi bod yn aelod o’r Tîm Cynlluniau Oes ers 2019.
Yn rhugl yn y Gymraeg, gall Rebecca gyfathrebu trwy’r Gymraeg neu’r Saesneg.
Yn ei hamser sbâr mae’n mwynhau comedi fyw ‘stand-up’, rhedeg a mynd ar wyliau gyda’i theulu.