- Abertawe 01792 773 773
- Caerdydd 029 2022 5472
- Caerfyrddin 01267 234 022
- Abergwaun 1348 873 671
- Hwlffordd 01437 764 723
- Practis Gwledig 01267 266 944
- Tyddewi 01348 873 671
- Nodwch fod pob galwad ffôn yn cael ei recordio
Rachel Powell
Cyfreithiwr Cyswllt yn ein Tîm Cyfraith Teulu yng Nghaerfyrddin yw Rachel. Mae’n arbenigo ym mhob agwedd o gyfraith teulu gan gynnwys materion sy’n ymwneud â phlant, ysgariad a datrysiadau ariannol. Mae Rachel yn deall y gall fod yn amser ysgytiol pan fo teulu'n chwalu, ac ymfalchïa yn ei hagwedd ymarferol a’i defnydd o synnwyr cyffredin wrth gynghori.
Ymdrecha i weithio’n agos gyda phob cleient unigol er mwyn sicrhau ei bod yn deall a mynd i’r afael â’u pryderon.
Cwblhaodd Rachel ei gradd LLB (Anrh) a’r Cwrs Ymarfer y Gyfraith ym Mhrifysgol Abertawe cyn ymuno gydag Adran Gyfreithiol Cyngor Sir Caerfyrddin. Aeth ymlaen i ymuno â chyfreithwyr Hains & Lewis yng Ngorllewin Cymru lle cwblhaodd ei chontract hyfforddi, gan dreulio y rhan fwyaf o’i hamser yn yr Adran Deuluol. Cymhwysodd fel cyfreithiwr ym mis Ebrill 2013 gan barhau i weithio gyda’r cwmni yn gwneud cyfraith teulu nes ymuno gyda Chyfreithwyr JCP yng Ngorffennaf 2015.
Mae’n rhugl yn y Gymraeg ac yn hapus i ddelio gyda chleientiaid sydd yn well ganddynt ddatrys materion gyda chyfreithiwr sy’n medru’r Gymraeg.
Caeth Rachel ei geni a’i magu yn Sir Gâr a phriododd yn ddiweddar. Pan nad yw’n treulio amser gyda’i theulu a ffrindiau, mae’n mwynhau dosbarthiadau cadw’n heini, a gwylio rygbi ar lefel lleol a chenedlaethol.